Yn gyfrifol i:
Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Yn gyfrifol am:
- Y Gweinyddwr a Chynorthwyydd Personol yr Ysgrifennydd Cyffredinol
- Hwylusydd Ffydd Trefn a Thystiolaeth
- Swyddog Polisi
Pwrpas y Rôl
Darparu arweiniad gyda gweledigaeth ar eciwmeniaeth ac ymwneud cyhoeddus gan Eglwysi Cymru, a hwyluso a dwyn ymlaen y rhaglen waith a’r blaenoriaethau a osodir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Cytûn i wasanaethu’r Eglwysi.
Cyfrifoldebau a Swyddogaethau Cysylltiedig:
1 Hyrwyddo Cenhadaeth trwy Undod
- hyrwyddo deialog rhwng arweinwyr yr eglwysi sy’n aelodau o Cytûn
- cychwyn a chefnogi rhaglenni a chynlluniau i gryfhau ymwneud rhyng-eglwysig, trwy feithrin perthynas agosach gydag eglwysi eraill a grwpiau o eglwysi a thrwy gyfarfodydd anffurfiol gyda chyrff perthnasol eraill
- trwy oruchwylio cefnogaeth i’r Cyfamod dros Undod yng Nghymru trwy Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol.
- trwy gefnogi Cyngor yr Eglwysi Rhyddion
- trwy helpu’r Eglwysi i hyrwyddo’r ymrwymiadau a wnaed ganddynt a’u cynorthwyo i ymateb i bobl o wahanol ffydd
2 Annog Bywyd Eglwysig sy’n cael ei Rannu
- cyfarfod ac ymgynghori ag Arweinwyr Eglwysig a chymryd rhan briodol yn nhrafodaethau eu cyrff llywodraethol
- galluogi’r Eglwysi a’r Enwadau i hyrwyddo ymatebion a strategaethau ar y cyd, gan gynnwys y rhai y cytunwyd arnynt gyda CTBI
- cefnogi asiantaethau eglwysig megis Cymorth Cristnogol, CAFOD, etc
3 Galluogi Cytûn i chwarae ei ran ym mywyd cyhoeddus y genedl
- cysylltu â’r Senedd, Llywodraeth Cymru ac eraill dros ymwneud Cytûn a gwasanaethau a dathliadau cenedlaethol
- sicrhau yr ymatebir yn briodol i fentrau gan y llywodraethau datganoledig a llywodraeth y DU
4 Llywodraethiant a Rheoli
- Ymgymryd â rôl prif weithredwr ac ysgrifennydd cwmni Cytûn fel cwmni elusennol cyfyngedig trwy warant
- Sicrhau bod gan yr Ymddiriedolwyr yr adnoddau digonol ar gyfer y penderfyniadau mae angen iddynt eu cymryd
- Sicrhau y gweithredir penderfyniadau’r Ymddiriedolwyr yn gywir
- arfer rheolaeth gyffredinol a chydgordio gwaith CYTÛN, rheolaeth ariannol a goruchwylio staff
- sicrhau drafftio papurau, adroddiadau, agendau i holl gyfarfodydd CYTÛN
- mynychu cyfarfodydd bwrdd CTBI a chydweithredu â CTBI
- bod yn gyfrifol am gyflwyno datganiadau cyhoeddus ysgrifenedig a rhai a ddarlledir.
5 Sicrhau cynrychiolaeth CYTÛN
- ar Fforwm Cymunedau Ffydd y Senedd, ac ar Gyngor Rhyng-Ffydd Cymru
- trwy eiriolaeth Eglwysi ac Enwadau Cymru yng nghynghorau ehangach yr Eglwys:
- a) ym Mhrydain ac Iwerddon,
- b) Cyngor yr Eglwysi Ewropeaidd (CEC) a chyfarfodydd Ysgrifenyddion Cyffredinol Cynghorau Eglwysi Cenedlaethol Ewrop, ac
- c) fel Cynrychiolydd Dirprwyedig i Gyngor Eglwysi’r Byd ac Ymgynghorydd Eciwmenaidd i gyfarfodydd ei Bwyllgor Canolog
Efallai y gofynnir i’r Prif Weithredwr ymgymryd â thasgau eraill ar wahân i’r uchod fel y cytunir arnynt gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Oriau:
37.5 yr wythnos
Cyflog:
£44,158 y flwyddyn.
Anogir pob aelod o’r staff sydd heb fod mewn cynllun pensiwn i ymuno â’r cynllun pensiwn a gynigir gan Cytûn.