Deddfwriaeth Coronafeirws:
Papur briffio i eglwysi Cymru

Rheoliadau ar gyfer addoldai yng Nghymru hyd Ebrill 18 2022 (rheoliadau Lefel 0)

Dyma grynodeb Llywodraeth Cymru o’r hyn y mae Lefel 0 yn ei olygu [o Fawrth 28 2022]:

Nid ydym eto wedi cyrraedd sefyllfa lle gallwn gael gwared â phob mesur amddiffyn ac – yn unol â’r cyngor gwyddonol ac iechyd cyhoeddus diweddaraf – rydym yn cadw rhai rheolau cyfreithiol allweddol. Mae angen inni i gyd gymryd cyfrifoldeb o ran y rhain yn hytrach na’u gwneud yn ddewis personol.

  1. [Hyd Ebrill 18 2022] Bydd dal yn rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau unrhyw gysylltiad â’r feirws, a’i ledaeniad.
  2. Bydd dal yn rhaid i oedolion a phlant dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb, oni bai eu bod wedi’u heithrio, mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Er nad yw’n ofyniad cyfreithiol bellach mewn lleoedd eraill, mae pobl yn cael eu cynghori’n gryf i ddewis gwisgo gorchudd wyneb o hyd mewn mannau gorlawn neu fannau caeedig dan do, oni bai eu bod wedi’u heithrio ar sail feddygol.

Yn unol â phwynt 1, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau manwl ynghylch llunio asesiad risg a’r camau rhesymol i’w cymryd a ‘cherdyn gweithredu’ gyda gwybodaeth fwy penodol ar gyfer addoldaiMae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am sut y mae’r feirws yn lledu ac yn tynnu sylw at y gweithgareddau sy’n arwain at risg – megis canu.  Mae’r canllawiau yn gorffen gydag 11 cwestiwn sylfaenol i’w gofyn wrth lunio asesiad risg penodol. Mae cymal 18 y rheoliadau yn gosod dyletswydd ar y sawl sy’n gyfrifol am unrhyw fan sydd yn weithle neu ar agor i’r cyhoedd i roi sylw i’r canllawiau hyn (a chanllawiau eraill y Llywodraeth sy’n berthnasol – gweler isod). Mae’n bwysig, felly, fod y sawl sy’n gyfrifol am addoldy (fel pob man cyhoeddus arall) yn darllen y canllawiau hyn yn ofalus.
Cyfrifoldeb awdurdod priodol pob addoldy neu weithgarwch penodol yw llunio’r asesiad risg – mae trefniadau enwadol yn amrywio, ond yn gyffredinol y sawl sy’n gyfrifol am agweddau eraill ar iechyd a diogelwch addoldy neu weithgarwch penodol sy’n cario’r ddyletswydd gyfreithiol i lunio asesiad risg Covid.

Gellir gweld testun cyfredol cyflawn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru), fel y’u diwygiwyd, yma.

Yn unol â chymal 16 y rheoliadau, hyd Ebrill 18 yn sgîl COVID-19 prif ddyletswydd gyfreithiol ychwanegol y ‘person’ (all fod yn gorff, megis cyngor eglwys y plwyf neu ddiaconiaid) sy’n gyfrifol am yr adeilad yw:

Cam 1
Cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, ac wrth wneud hynny ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny.
[Gweler yr adran isod am asesiadau risg am fwy o fanylion]
Cam 2
Darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws
, gan gynnwys gwybodaeth i’r rheini sy’n gweithio yn y fangre ynglŷn â’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a nodir o dan yr asesiad a gynhelir o dan Gam 1, a’r mesurau sydd i’w cymryd o dan Gam 3 i leihau’r risg.
Cam 3
Cymryd mesurau rhesymol i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo personau yn ymgynnull yn y fangre, megis—
(a) ceisio rhwystro’r personau a ganlyn rhag bod yn bresennol yn y fangre—
(i) unrhyw berson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn y 10 niwrnod blaenorol,
(ii) unrhyw berson sydd wedi cael cysylltiad agos yn y 10 niwrnod blaenorol â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws,
(iii) unrhyw berson sy’n profi symptomau sy’n gysylltiedig â COVID-19;

(b) sicrhau bod personau sy’n ymgynnull yn y fangre yn ymgynnull yn yr awyr agored pan fo hyn yn ymarferol;
(c) cyfyngu ar ryngweithio corfforol agos rhwng personau yn y fangre, yn benodol rhyngweithio wyneb yn wyneb, er enghraifft drwy—
(i) newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
(ii) rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii) rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv) fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;
(v) gosod rhwystrau neu sgriniau;
(d) cyfyngu ar hyd yr amser y caniateir i bersonau fod yn bresennol yn y fangre;
(e) ceisio sicrhau bod y fangre wedi ei hawyru’n dda;
(f) cynnal hylendid da yn y fangre;
(g) darparu, neu ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol.

[Is-gymal (2) wedi ei ddileu]
(3) Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) yn cynnwys—
(a) peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b) cau rhan o’r fangre;
(c) caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd iddo gael canlyniad positif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif, am gyfnod—
(i) a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;
(ii) a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;
(d) casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu
ar ei gais—
(i) Gweinidogion Cymru;
(ii) swyddog olrhain cysylltiadau;
(e) cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

Wrth gwrs, mae gofynion cyfreithiol eraill – megis iechyd a diogelwch cyffredinol, diogelu plant ac oedolion bregus, diogelu data personol, ac yn y blaen – yn parhau mewn grym hefyd, ac ni ddylid eu hanghofio wrth drefnu addoli neu weithgarwch arall.

Nid oes uchafswm penodedig ar gyfer y nifer all fynychu oedfa, dan do neu yn yr awyr agored – dylai pob addoldy weithio allan ei uchafswm diogel ei hun yn wyneb yr asesiad risg a’i weithredu. Mae hyn yn wir p’un ai yw’r adeilad yn perthyn i gymuned ffydd ai peidio.

Caniateir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer unrhyw nifer o bobl o unrhyw oedran. Fe erys yn angenrheidiol i gynnal asesiad risg cyflawn ar gyfer gweithgaredd awyr agored.

Gorchuddion wyneb

Mae’n ofyniad dan Gymal 20 y Rheoliadau i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn (ymysg lleoedd eraill, tan Fawrth 28 2022) safleoedd manwerthu a (hyd yn oed wedi Mawrth 28) mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaeth gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau gofal dydd i oedolion, gan gynnwys mangreoedd felly sydd o fewn addoldai neu yn cael eu cynnal gan gymunedau ffydd.

Nid oes rheidrwydd cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau eraill, gan gynnwys addoldai a chanolfannau cymunedol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio i’r pwrpasau hyn, ond mae Llywodraeth Cymru o hyd yn argymell gwneud hynny. Lle bo asesiad risg (gweler isod) yn dod i’r casgliad y dylid gwisgo gorchuddion wyneb yn ystod gweithgarwch (er enghraifft, wrth ganu), gall addoldy neu ganolfan barhau i orfodi hynny.

Mae’r eithriadau i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gyfyng. Dyma nhw yn llawn:
(a) pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
(b) pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;
(c) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(d) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;
(e) pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(f) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i— (i) cymryd meddyginiaeth; (ii) bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;
(g) pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth.

Asesiadau risg (hyd Ebrill 18 2022)

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y sawl sy’n gyfrifol am “fangreoedd rheoleiddiedig” (gan gynnwys addoldai, canolfannau cymunedol, ayb) i wneud asesiad risg cyn rhoi mynediad i’r cyhoedd i’r fangre am unrhyw reswm. Mae geiriad y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad risg cyflawn (gan gynnwys materion iechyd a diogelwch cyffredinol, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â’r coronafeirws yn benodol).

Fe ddewisodd Llywodraeth Cymru eirio’r rheoliadau trwy gyfeirio at reoliadau Iechyd a Diogelwch o 1999, sydd wedi eu diwygio sawl gwaith ers hynny, ac yna mynnu eu darllen pe baent wedi eu geirio’n wahanol i’r hyn ydynt. Felly, er mwyn ceisio cynorthwyo ein haelod eglwysi i ddiweddaru eu hasesiadau risg yn unol â’r gyfraith, rydym wedi paratoi datganiad o’r hyn sy’n ofynnol y gellir ei lawrlwytho yma. Yn Saesneg yn unig y mae’r atodiad, gan mai yn Saesneg yn unig y mae’r rheoliadau iechyd a diogelwch sy’n sail iddo.

Byddem yn tynnu sylw arbennig at bump agwedd ar oblygiadau’r rheoliadau:

  1. Ein dealltwriaeth ni yw bod y rheoliadau yn gwneud paratoi asesiad risg cyflawn – yn cynnwys risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol ac asesiad risg tan – yn ogystal â’r risgiau sy’n ymwneud yn benodol â’r coronafeirws – yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob “mangre rheoleiddig”, hyd yn oed os nad oedd hynny’n ofyniad cyfreithiol cyn hyn.
  2. Mae’n ofyniad i ymgynghori ynghylch yr asesiad risg gyda’r sawl sy’n ‘gweithio’ yn y fangre. Gan y bydd llawer o aelodau cynulleidfa mewn addoldy yn gwirfoddoli mewn gwahanol ffyrdd, yn ymarferol mae hyn yn golygu ymgynghori gydag aelodau gweithredol y gynulleidfa. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am wirfoddoli yn cynnwys arweiniad defnyddiol am hyn. Gan mai gwirfoddol yw rhan fwyaf y tasgau sydd eu hangen i gynnal addoldai a chymunedau ffydd, fe fydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol i addoldai wrth drefnu a diogelu eu gwirfoddolwyr.
  3. Mae’r rheoliadau yn mynnu adolygu’r asesiad risg bob tro y newidir y rheoliadau coronafeirws neu y newidir y defnydd a wneir o’r adeilad (gan y byddai hyn yn a significant change in the matters to which it relates) a hefyd pan fo’r sefyllfa gyffredinol o gwmpas coronafeirws yn newid (gan y byddai hyn yn reason to suspect that it is no longer valid).
  4. Mae’r rheoliadau yn mynnu fod yr asesiad risg yn ysgrifenedig pan fo pump neu fwy yn “gweithio” yn y fangre. Gan fod ‘gweithio’ yn cynnwys gwneud hynny yn wirfoddol, credwn y byddai hyn yn cynnwys bron pob amgylchiad sy’n debygol o fod yn berthnasol i gymunedau ffydd.
  5. Mae yna ofynion penodol ar gyfer yr asesiad risg pan fo person neu bobl ifainc yn ‘gweithio’ yn y fangre.

Gobeithiwn y bydd yr atodiad yn gymorth i chi, ond noder nad yw’n gyngor cyfreithiol, ac y dylid ceisio cyngor proffesiynol arbenigol os oes unrhyw amheuaeth ynghylch sut i gymhwyso’r rheoliadau i’ch sefyllfa benodol chi.

Rydym yn falch o allu cyhoeddi yr arweiniad isod gan David Oliver, Ymgynghorydd Eglwys ac Arweinyddiaeth. Cawsant eu paratoi yn wreiddiol ar gyfer enwad Elim, ac felly maent yn rhagdybio arferion yr eglwysi rhyddion o ran cymundeb a phatrwm addoli a bywyd eglwysig. Gellir addasu’r 5 cam yma ar gyfer enwadau a thraddodiadau eraill.

O Fawrth 28 2022, ni fydd yn ofyniad cyfreithiol i’r sawl sy’n profi’n bositif gyda Covid-19 hunan-ynysu, er y parheir i gynghori yn gryf. Dylid cymhwyso’r cymal hwn (a addaswyd o’r cerdyn gweithredu am bresenoldeb pobl felly mewn angladdau) at yr asesiad risg ar gyfer pob amgylchiad lle y gall pobl sydd wedi profi’n bositif fod yn bresennol:
Cymryd gofal arbennig mewn perthynas ag unrhyw berson o’r fath sy’n bresennol – gan gynnwys (er enghraifft) drwy ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wisgo gorchudd wyneb, cadw pellter corfforol llym, lleihau hyd y gweithgarwch, sicrhau awyru da a chynnal cymaint o’r gweithgarwch â phosibl y tu allan.

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi paratoi canllawiau a thempled asesiad risg ar gyfer eglwysi (Saesneg yn unig) y gellid ei addasu ar gyfer enwadau eraill. Maent hefyd wedi paratoi canllawiau mwy penodol ar gyfer bedyddio (plant), cymun, angladdau a phriodasau, a neuaddau eglwys. Gellir canfod y rhain ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu templed Cymraeg ar gyfer Asesiad Risg Covid. Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch hefyd wedi paratoi templed Cymraeg tebyg. Ni fydd pob adran yn berthnasol i bob addoldy, ac fe all y bydd yna risgiau eraill y byddwch am eu hystyried, ond mae’r naill dempled neu’r llall yn fan cychwyn defnyddiol.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi yn cyhoeddi cardiau gweithredu‘ ar gyfer gwahanol fathau o leoliadau a gweithgareddau. Gellir gweld y detholiad cyfan yma, a gellir defnyddio’r un mwyaf addas at eich sefyllfa fel man cychwyn i’ch asesiad risg penodol eich hun.
Mae cardiau gweithredu tebyg ar gyfer gweithgareddau plant a phobl ifainc yma.

Bydd awyru yn elfen bwysig o unrhyw asesiad risg ar gyfer gweithgareddau dan do. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru (sgroliwch i lawr i’r adran ‘Gwella awyru’) yn cynnwys crynodeb o’r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf sy’n pwysleisio yr angen am awyru da pan fo pobl o aelwydydd gwahanol yn cyfarfod dan do. Ceir crynodeb o’r un wybodaeth yng nghanllawiau’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig), a thynnwn sylw yn enwedig yr awgrymiadau ymarferol yn adrannau 4-6.

Bydd angen i asesiad risg gael ei seilio ar ledaeniad Covid-19 yn nalgylch yr addoldy neu’r gweithgarwch perthnasol. Gellir gweld gwybodaeth am Goronafeirws yn eich ardal ar wefan rhyngweithiol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig). Gellir dod o hyd i dabl fesul awdurdod lleol yma. Gallwch hefyd ddefnyddio’r fwydlen i ddod o hyd i wybodaeth fwy lleol drwy hofran uwchben y map a greir gan y tab ‘MSOA area’ . Defnyddiwch y ddewislen i ddewis gwybodaeth am yr wythnos ddiwethaf (‘rolling 7 days’ ) – gan y gall niferoedd dyddiol amrywio’n fawr gan ddibynnu ar ba ddiwrnod o’r wythnos yw hi. Yn ogystal â nifer yr achosion yn lleol, mae’n gwneud gwahaniaeth a yw’r nifer yn codi ynteu’n gostwng.

Gyda darparu gwybodaeth yn bwysicach fyth yn Lefel 0, pan fo cymaint llai o reoliadau penodol, cofier bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arwyddion dwyieithog y gellir eu lawrlwytho i gyfrannu at gyflawni’r ddyletswydd gyfreithiol am roi gwybodaeth.

Fe gysylltodd Llywodraeth Cymru a Fforwm Cymunedau Ffydd Cymru i gynnig yr arweiniad ychwanegol canlynol ynghylch llunio a gweithredu asesiadau risg:

Mae’n bwysig cydnabod y dylai’r asesiad risg fod yn bwrpasol i’r lleoliad a’r gweithgareddau sydd i’w cynnal ac y dylai asesu risg fod yn broses ddeinamig sy’n cael ei hadolygu’n gyson wrth i’r gweithgareddau a’r amgylchedd ehangach newid, ac felly’r risgiau newid hefyd. Mae gan y canllawiau cyhoeddedig sail statudol yn y gyfraith a dylai trefnwyr allu dangos eu bod wedi eu hystyried.
Fodd bynnag, mae penderfyniadau ynghylch y camau lliniaru sydd i’w cymryd yn bwrpasol i’r lleoliad ac felly gellir gwneud penderfyniadau rhesymol. Er enghraifft, mae’r canllawiau’n cyfeirio at ‘ei gwneud yn ofynnol i aelodau’r gynulleidfa gymryd prawf cyn mynd i mewn’, ond gallai’r cam lliniarol hwn fod yn briodol mewn rhai amgylchiadau ac yn amhriodol mewn amgylchiadau eraill. Efallai y bydd trefnwyr am fabwysiadu hyn lle byddai man addoli yn orlawn, lle mae’n anodd sicrhau system awyru dda, a pan fo’r weithred o addoli yn ddigwydd dros gyfnod hwyach. Gallai mynnu hyn fod yn ormod ac yn ddiangen lle nad yw’r risg o haint yn risg amlwg o uchel. Y cyfan y mae’n ofynnol i drefnwyr ei wneud yw rhoi ystyriaeth i’r cwestiwn a gallu dangos y rhesymeg.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod y broses o asesu a lliniaru risg yn ei gwneud yn ofynnol i drefnwyr gyfleu eu protocolau i’r cyhoedd a staff a chymryd camau rhesymol i’w gorfodi. Yn amlwg, gall fod yn anodd herio aelodau o’r cyhoedd a fyddai’n anwybyddu’n fwriadol y mesurau a roddwyd ar waith i fynd i’r afael â Covid-19. Fodd bynnag, mae hysbysu ac atgoffa pobl am y gofyniad i gadw ffenestri’n agored ar gyfer awyru neu ddilyn systemau un ffordd, lle mae’r camau lliniaru hyn wedi’u nodi gan yr asesiad risg, yn rhan o’r cyfrifoldeb i gymryd camau rhesymol. Yn yr un modd, byddai atgoffa pobl o’r ddyletswydd gyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb dan do yn ddisgwyliad rhesymol i drefnwyr. Byddai’r hawl a’r awdurdod moesol i eithrio pobl o addoldai yn debygol o fod yn benodol i’r lleoliad a’r grŵp. Fodd bynnag, y ddyletswydd yw gweithredu mesurau rhesymol ac mae hyn yn cynnwys sicrhau nad yw’r camau lliniaru yr ydych wedi’u rhoi ar waith yn cael eu tanseilio.

Pasiau Covid, profion llif unffordd a hunan-ynysu

O Chwefror 18, nid yw’n ofynnol i ofyn am pas Covid GIG neu brawf cyfatebol cyn caniatáu mynediad i unrhyw weithgarwch. Ond fe all addoldai, canolfannau cymunedol a mangreoedd eraill benderfynu parhau i ofyn i bobl ddangos pas Covid neu brawf cyfatebol os y dymunant.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai pawb sy’n credu fod ganddynt symptomau Covid gymryd prawf llif unffordd, ac os yw canlyniad prawf o’r fath yn bositif, y dylent hunan-ynysu.

Angladdau a phriodasau

Nid oes bellach cyfyngiad cyfreithiol ar bwy, na pha nifer, all fynychu gwasanaethau angladd a phriodas. Ond wrth lunio asesiad risg, dylid cofio y gall fod cynulleidfaoedd yn yr achlysuron hyn yn fwy o faint nag arfer, ac yn cynnwys pobl nad ydynt yn ymwybydol o drefniadau addoldai ar gyfer cadw pobl yn ddiogel.

Ceir canllawiau (‘cerdyn gweithredu’) Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau angladd yn rhan o’r canllawiau am addoldai yma. Cyfrifoldeb awdurdodau priodol yr addoldy yw llunio a gweithredu asesiad risg ar gyfer gwasanaeth angladd yn yr addoldy. Fe fydd cyfrifoldebau tebyg ar awdurdodau mynwentydd ac amlosgfeydd a lleoliadau lletygarwch a all fod yn gwasanaethu’r un teulu. Fel arfer, bydd y trefnydd angladdau yn gallu cynghori ynghylch oblygiadau’r asesiadau risg ar gyfer gwahanol elfennau yn ystod y diwrnod.

Daeth rhai o’r newidiadau i drefn cofrestru marwolaethau a gyflwynwyd dan Ddeddf Coronafeirws 2020 i ben ar Fawrth 24 2022, ond mae eraill wedi eu cadw trwy ddeddfwriaeth arall. Er nad yw cymunedau ffydd yn cofrestru marwolaethau fel y cyfryw, mae’r trefniadau hyn yn effeithio ar drefnu angladdau. Fe all, felly, y bydd o ddiddordeb darllen y cyfarwyddyd hylaw (Saesneg yn unig) am y drefn gyfreithiol newydd yma.

Nid oes bellach canllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer priodasau, gwasanaethau bendithio priodas neu bartneriaeth sifil, ayb. Cyfrifoldeb awdurdodau priodol yr addoldy (ac nid y teulu) yw llunio a gweithredu asesiad risg ar gyfer oedfa briodas. Ond fe fydd angen i’r teulu (neu drefnydd y briodas, os oes un) gyd-gysylltu asesiadau risg ar ran lleoliadau lletygarwch, darparwyr cludiant, ac ati ar gyfer gwahanol elfennau’r diwrnod.

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi paratoi canllawiau a thempled asesiad risg ar gyfer priodasau ac angladdau (Saesneg yn unig) y gellid ei addasu at ddefnydd enwadau eraill.

Ymweliadau bugeiliol

Gellir bellach trefnu ymweliadau bugeiliol dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat. Dylid parhau i gymryd pob cam rhesymol i gadw’n ddiogel, ac os yw’r tywydd yn ffafriol dylid o hyd ystyried cyfarfod yn yr awyr agored.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar ymweld a chartrefi gofal (diweddarwyd Ionawr 28 2022) ac ymweld ag ysbytai. Noder bod rhaid yn gyfreithiol i ymwelwyr i’r lleoliadau hyn wisgo gorchudd wyneb dan do, ond nid oes rhaid i breswylwyr mewn cartrefi gofal wneud hynny oni bai fod asesiad risg y cartref unigol yn gofyn iddynt wneud hynny. Nid yw’r canllawiau ar gyfer ymweld ag ysybytai wedi eu diweddaru ers Mehefin 18 2021, ac argymhellir cysylltu yn uniongyrchol a’r ysbyty i holi am eu trefniadau presennol.

Defnydd cymunedol ar addoldai a chanolfannau cymunedol

Caniateir agor canolfannau cymunedol (ac felly defnydd cymunedol ar addoldai), ar gyfer unrhyw weithgarwch, yn ddarostyngedig i asesiad risg a chymryd camau rhesymol i leihau lledaenu coronafeirws.

Nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi canllawiau penodol ar gyfer canolfannau cymunedol. Argymhellwn ddefnyddio canllawiau CGGC, a ddiweddarwyd ar gyfer Lefel 0 ar Awst 26 2021.
Fe fydd cardiau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau neu lletygarwch yn berthnasol i rai digwyddiadau cymunedol, ac yn fan cychwyn defnyddiol i lunio asesiad risg penodol.

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi paratoi canllawiau a thempled asesiad risg ar gyfer neuaddau eglwys (Saesneg yn unig), y gellid eu haddasu ar gyfer sefyllfaoedd tebyg mewn enwadau eraill.

Eglwysi sy’n landlordiaid ar eiddo preswyl

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer Landlordiaid ar eiddo preswyl (diweddarwyd ar Fedi 28 2021).

Noder bod yr angen i roi chwe mis o rybudd i denantiaid preswyl wedi dirwyn i ben ar Fawrth 24 2022 a mae telerau’r cytundeb gwreiddiol a’r ddeddfwriaeth berthnasol yn dychwelyd i rym. Ond dylid nodi y bydd y gofyniad am chwe mis o rybudd yn dychwelyd yng Nghymru (dan y rhan fwyaf o amgylchiadau) pan weithredir Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar Orffennaf 15 2022. Bydd y Ddeddf honno yn cyflwyno hefyd nifer o amodau ychwanegol y mae’n rhaid eu cyflawni cyn rhoi rhybudd i denant preswyl (dan y rhan fwyaf o amgylchiadau).

Canllawiau eraill

Mae yna ganllawiau eraill fydd yn berthnasol i rai addoldai:

Dylai eglwysi sy’n rhan o enwad, yn enwedig lle bo’r enwad yn ymddiriedolwr ar yr adeilad lleol, sicrhau eu bod yn ceisio cyngor eu henwad eu hunain am unrhyw ofynion enwadol perthnasol. Dylid nodi fod canllawiau nifer o enwadau traws-ffiniol yn seiliedig ar y Rheoliadau sy’n gymwys yn Lloegr yn hytrach na’r rhai sy’n gymwys yng Nghymru. Mater i’r enwad unigol yw hyn, a lle bo gwrthdaro rhwng cyngor enwadol a Rheoliadau Cymru dylid trafod hyn o fewn yr enwad perthnasol.

Mae nifer o’r bobl hynny sy’n gyfrifol am addoldai yn bryderus am gydymffurfio â’r Rheoliadau, yn enwedig pan eu bod yn newid yn rheolaidd. Fe all y bydd yn gymorth, felly, darllen canllawiau Llywodraeth Cymru i swyddogion gorfodi (wedi eu diweddaru ar gyfer Lefel 0), i weld yr hyn y byddan nhw yn chwilio amdano a sut  byddant yn gweithredu wrth sicrhau cydymffurfio â’r gyfraith.

Ambell gwestiwn penodol

Dyma atebion i ambell gwestiwn a ofynnir yn gyson. Byddwn yn ychwanegu at y rhestr hon yn rheolaidd.

Offerynnau a chanu

Caniateir canu cynulleidfaol a phob math o ganu offerynnol, yn ddarostyngedig i asesiad risg manwl. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y gall canu fod yn weithgarwch risg uchel, a mae’r ‘cerdyn gweithredu’ ar addoldai yn dweud a ganlyn:
Mae canu neu lafarganu yn cynyddu’r aerosolau sy’n cael eu gollwng i’r awyr o gegau pobl. Drwy ganu llai neu roi’r gorau i ganu, gellir helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo’r haint. Os bydd canu neu lafarganu yn digwydd, dylid rhoi mesurau lliniaru eraill ar waith, a allai gynnwys gwella’r awyru, symud y gweithgarwch allan i’r awyr agored, cynyddu’r gofod rhwng pobl, neu ganiatáu i lai o bobl fod yn bresennol.

Gellir darllen y cyngor technegol cyflawn sydd y tu cefn i hyn yma (Saesneg yn unig).

Gwasanaethau ac achlysuron arbennig (dan do neu yn yr awyr agored)

Caniateir cynnal gweithgareddau – gan gynnwys oedfaon – awyr agored a dan do ar gyfer unrhyw nifer o bobl. Fe erys yn angenrheidiol i gynnal a gweithredu asesiad risg cyflawn. Ceir canllawiau am hyn gan Lywodraeth Cymru yma.

Gweini lluniaeth cyn neu wedi oedfa

Gellir gweini lluniaeth yn ddarostyngedig i asesiad risg priodol. Fe fydd cerdyn gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau lletygarwch yn fan cychwyn defnyddiol wrth lunio’r asesiad risg.

Glanhau’r adeilad

Dyma arweiniad ‘cerdyn gweithredu’ Llywodraeth Cymru ar gyfer addoldai:

  • Glanhau a diheintio arwynebau ac offer yn rheolaidd. Sicrhau bod digon o amser ar gyfer egwyl rhwng gwasanaethau a glanhau’n drylwyr ac yn rheolaidd, gan ddefnyddio diheintydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu defnyddio fwyaf a’r mannau sy’n cael eu cyffwrdd fwyaf, megis dolenni drysau neu ganllaw grisiau.
  • Lle caiff gwrthrychau eu cyffwrdd fel rhan o’r addoliad, glanhau’r gwrthrychau hynny rhwng pob addolwr a’u cyffyrddodd a’u gwneud yn ofynnol i addolwyr ddiheintio neu olchi eu dwylo cyn ac ar ôl iddynt gyffwrdd y gwrthrychau.
  • Darparu hylif diheintio dwylo ac annog pobl i olchi eu dwylo’n rheolaidd.

Mae gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch arweiniad am ddewis diheintyddion glanhau ac ar gyfer dwylo yma.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cynhyrchu arweiniad manwl (Saesneg yn unig) am lanhau cyffredinol ac am lanhau adeilad wedi darganfod fod rhywun â Covid-19 wedi bod yno.

Profi, Olrhain, Diogelu

Mae Rheoliad 16 yn nodi mai un “mesur rhesymol” i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws yw: Casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol ar ei gais
(i) Gweinidogion Cymru
(ii) swyddog olrhain cysylltiadau 
a chymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth gyswllt yn gywir. 

Ceir canllawiau manwl am gadw cofnodion Profi, Olrhain, Diogelu yma.

Nid yw’r codau QR yn ap Covid-19 yn weithredol o 24 Chwefror 2022, a lle bo’n ddymuniad cadw cofnod o fynychwyr mewn oedfa neu weithgarwch, dylid bellach gwneud hynny trwy restr yn hytrach na thrwy’r ap.

Gall unrhyw un sydd a symptomau Covid-19 archebu profion llif unffordd. Gweler y canllawiau a gwybodaeth bellach yma.

Unigolion sy’n bryderus am fynychu

Nid oes unrhyw reidrwydd ar neb i fynychu addoldy am unrhyw bwrpas, a dylid sicrhau gofal bugeiliol priodol o unrhyw sy’n bryderus am hynny. Rydym yn argymell sylwadau Bedyddwyr Ynghyd (cyfieithiad Cytûn): Rydym yn boenus ymwybodol fod yna botensial i’r broses o wneud penderfyniadau i’r dyfodol fod yn gynhennus. Mewn rhai ffyrdd roedd yn haws pan oedd y rheolau yn fwy caethiwus ond o leiaf yn bendant. Fe all y bydd sut yr ydym yn penderfynu cyn bwysiced i eglwysi â’r penderfyniadau eu hunain. Rydym yn apelio ar bawb sydd ynglŷn â hyn i fod yn garedig i’w gilydd, i wrando yn dda, i ddeall y pwysau sydd ar arweinyddion, ac i gyfaddawdu yn unol â hynny. Mae hwn yn amser bregus iawn i eglwysi ac fe ofynnwn i chi gofio’r alwad yn Effesiaid 4 ‘Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi’ch gwneud chi’n un, a’i fod yn eich clymu gyda’ch gilydd mewn heddwch.’

Diweddarwyd cyngor Llywodraeth Cymru ar gyfer y sawl sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar Orffennaf 27 2021 a chyhoeddwyd canllaw hawdd ei ddarllen ar Awst 16.

Mae’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig wedi llunio offeryn asesu risg personol ar gyfer aelodau cynulleidfaoedd (Saesneg yn unig).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adnoddau hawdd eu darllen ar gyfer y cyhoedd yn cynnig arweiniad cyffredinol am gadw’n ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu bathodynnau priodol i bobl eu gwisgo er mwyn atgoffa eraill i gadw eu pellter.

Bedydd

Gellir cynnal bedydd trochiad a bedydd plant yn ddarostyngedig i asesiad risg manwl – gan gofio risgiau i’r sawl sy’n rhan o’r bedydd, ac i gynulleidfa a all gynnwys rhai nad ydynt wedi arfer â threfn yr eglwys.

Wrth fedyddio plentyn, gan ddibynnu ar draddodiad yr enwad, fe all y bydd arweinydd nad yw am gyffwrdd â’r baban am ddefnyddio llestr litwrgaidd neu lestr cyffredin (megis cwpan neu lwy fawr) o hyd braich, a gall y bydd hyn yn fwy urddasol ac ymarferol na ‘sblasio’ dŵr o bell. Gellir trefnu ymarfer gyda dol os am sicrhau y bydd y dull a ddewisir yn addas.

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi paratoi canllawiau a thempled asesiad risg ar gyfer bedyddio plant (Saesneg yn unig), y gellid ei addasu ar gyfer enwadau eraill.

Gwasanaethau cymundeb

Dylid paratoi asesiad risg pwrpasol ar gyfer gweinyddu’r cymun. Mae hyn yn arbennig o bwysig os bwriedir torri torth a’i rhannu neu defnyddio cwpan gyffredin ar gyfer y gwin.

Mae nifer o gyflenwyr masnachol yn darparu pecynnau unigol yn cynnwys afrlladen a chwpan plastig o win. Os yw hyn yn gydnaws â thraddodiad yr eglwys, gellir bendithio’r rhain a’u dosbarthu, neu gellir dosbarthu’r pecynnau yn y seddi cyn yr oedfa neu eu gadael i’w codi wrth i addolwyr gyrraedd. Os gofynnir i addolwyr ddod a’u bara eu hunain, gellir cadw cyflewnad o’r pecynnau hyn wrth gefn ar gyfer addolwyr sy’n anghofio neu’n ymweld. Bydd rhai eglwysi am osgoi defnyddio’r pecynnau hyn oherwydd y swmp o blastig na ellir ei ail-ddefnyddio sydd ynddynt.

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi paratoi canllawiau a thempled asesiad risg ar gyfer y cymun (Saesneg yn unig). Dylai enwadau sy’n defnyddio dulliau gwahanol o weinyddu’r cymun nodi y byddai angen addasu gofalus ar y canllawiau a’r templed hwn.

Conffyrmio, ordeinio ac arddodi dwylo

Dylid paratoi asesiad risg pwrpasol pan fo angen arddodi dwylo fel rhan o’r oedfa. Dylid ymgynghori ymlaen llaw â’r sawl y bwriedir ei gyffwrdd ynghylch beth sy’n dderbyniol iddynt.

Plant a phobl ifainc

Gellir cynnal pob gweithgarwch yn unol ag asesiad risg priodol. Bydd y canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru yn ddefnyddiol wrth baratoi’r asesiad risg:

  • Gofal plant a chynlluniau chwarae wedi eu cofrestru gyda’r Awdurdod Lleol neu heb eu cofrestru – wedi eu diweddaru ar gyfer Lefel 0 ar Ionawr 28 2022.
  • Cardiau gweithredu’ ar gyfer llunio asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau i blant, gofal plant a chynlluniau chwarae (ar gyfer Lefel 0).
  • Cyfarfodydd llywodraethiant eglwysig

    Nid yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i weithio (neu cyflawni gwaith gwirfoddol) gartref, ond mae Llywodraeth Cymru o hyd yn cynghori gwneud hynny. Dylai eglwysi felly ystyried o ddifrif trefnu cyfarfodydd llywodraethiant eglwysig o bell yn hytrach na wyneb yn wyneb. Os nad yw hynny yn rhesymol ymarferol, yna gellir cyfarfod yn unol ag asesiad risg priodol mewn adeilad eglwysig, canolfan gymunedol neu mewn annedd preifat, megis yng nghartref y gweinidog. Lle bo rhai o aelodau’r cyfarfod yn oedrannus a/neu yn dioddef iechyd gwael, dylid cymryd hynny i ystyriaeth wrth lunio’r asesiad risg.

    Addoli mewn adeiladau nad ydynt yn perthyn i’r gymuned ffydd

    Y sawl sy’n gyfrifol am yr adeilad sy’n gyfrifol am drefnu asesu’r risg. Dylid trafod gyda’r awdurdod priodol am sut i drefnu’r addoli.

    Cynlluniau cymorth gan Lywodraeth Cymru a mudiadau eraill

    Mae’r ariannu canlynol ar gael trwy Lywodraeth Cymru, a gall gefnogi gweithgareddau cymunedol a gynhelir gan grwpiau ffydd. Ar y cyfan, ni fydd yn cefnogi gweithgarwch crefyddol.

    Mae Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru yn darparu cyfuniad o grantiau a benthyciadau ar gyfer mudiadau trydydd sector mewn tri ffrwd: goroesi, gwella ac amrywio. Mae’r gronfa  yn rhoi blaenoriaeth i fudiadau sy’n cynorthwyo pobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys grwpiau crefydd/cred. 
    Caeodd y trydydd rownd o geisiadau ar Ionawr 31 2022. Gobeithir y cyhoeddir rownd pellach yn y flwyddyn ariannol newydd.

    Mae yna nifer fawr o raglenni grant eraill a gynigir gan fudiadau y tu allan i Lywodraeth Cymru fydd yn darparu cyllid ar gyfer cynlluniau arweinir gan grwpiau ffydd. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd Deddf Eglwys Cymru a weithredir gan awdurdodau lleol (gweler gwefan eich awdurdod lleol) a rhaglenni Cronfa Gymunedol y Loteri GenedlaetholSefydliad Cymunedol Cymru a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau. Gellir gweld gwybodaeth am y ffynonellau ariannu hyn ar wefan Cyllido Cymru.

    Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am gynlluniau cymorth eraill sydd ar gael ac am gynllun prentisiaethau sydd wedi’i ehangu ar gyfer pobl sy’n ddi-waith oherwydd effaith y pandemig.

    Mae CGGC wedi paratoi rhestr gynhwysfawr o ffynonellau cyllid ar gyfer mudiadau trydydd sector, a mae llawer o’r rhain yn agored i eglwysi a grwpiau ffydd.

    Bydd hefyd yn beth da i grwpiau ffydd gysylltu a’u cyngor gweithredu gwirfoddol lleol er mwyn derbyn cymorth gyda dod o hyd i ffynonellau ariannu lleol a chenedlaethol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am eich cyngor gweithredu gwirfoddol lleol gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

    Ymchwiliad Covid-19 yn y DU

    Mae Ymchwiliad Covid-19 yn y DU dan lywyddiaeth y Farwnes Hallett wedi ymgynghori am y cylch gorchwyl drafft yma. Disgwylir cyhoeddi’r cylch gorchwyl terfynol ym Mai 2022.

    Mae grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn ymgyrchu dros lais i deuluoedd a ddioddefodd brofedigaeth yn ystod y pandemig a gallant ddarparu cynrychiolaeth gyfreithiol dorfol dros eu haelodau. Gellir cysylltu â nhw trwy Facebook neu ebost: cymru@covidfamiliesforjustice.org

    Gethin Rhys
    14.04.2022