Cyfnod atal byr, Hydref 23 – Tachwedd 9 2020

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gwestiynau cyffredin i fannau addoli a chanolfannau cymunedol yn ystod y cyfnod atal byr 23 Hydref – 9 Tachwedd 2020
Gellir gweld y Rheoliadau llawn ar gyfer y cyfnod hwn yma.

Beth yw ystyr ‘cyfnod atal byr’?
Yn ystod y ‘cyfnod atal byr’ bydd cyfres o fesurau ar waith o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan 12:01am ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Byddant yn newid y rheolau COVID cyfredol. Mae rheolau’r ‘cyfnod atal’ yn cynnwys 5 prif beth:
 rhaid i bobl aros adref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn
 ni chaiff pobl ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydynt yn byw gyda nhw
 rhaid i fusnesau a lleoliadau penodol, gan gynnwys bariau, bwytai a’r rhan fwyaf o siopau gau
 bydd ysgolion uwchradd yn dysgu ar-lein yn unig yn ystod yr wythnos ar ôl hanner tymor, ac eithrio ar gyfer plant ym mlynyddoedd saith ac wyth. Bydd ysgolion cynradd a lleoliadau gofal plant ar agor
 mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol yn y lleoliadau cyhoeddus o dan do sydd ar agor
Ceir yr holl wybodaeth am y cyfnod atal byr yma.

Ydy fy man addoli neu ganolfan gymunedol yn medru agor i’r cyhoedd?
Ydy, ond dim ond ar gyfer rhai dibenion penodol. Gellir agor ar gyfer seremoni priodas neu wasanaeth angladd, i alluogi mynediad i wasanaeth cyhoeddus critigol ac i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol.
Nid yw’n bosib cynnal gwasanaethau na chaniatáu gweddïo preifat yn ystod y ‘cyfnod clo’.

Pa wasanaethau cyhoeddus neu wirfoddol gellir ei ddarparu mewn man addoli neu ganolfan gymunedol?
Gallwch agor i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu’r Awdurdod Lleol ac i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol [* gweler isod]. Mae hanfodol yn golygu os na ddarperir y gwasanaeth yn ystod y ‘cyfnod clo’ gall y derbynnydd ddioddef niwed sylweddol. Os yw’n bosib oedi darparu’r gwasanaeth gwirfoddol tan ar ôl y ‘cyfnod clo’ heb newid sylweddol dylid gwneud hynny. Os yw’n rhesymol i ddarparu’r gwasanaeth o gartref dylid gwneud hynny.
Enghreifftiau o wasanaethau cyhoeddus gellid ei darparu yw banciau bwyd, gwasanaethau i’r digartref neu bobl fregus arall yn ogystal â gwasanaethau iechyd megis rhoi gwaed neu frechiad rhag y ffliw. Gellir parhau i gynnig gwasanaethau gofal plant yn yr adeiladau yma.

A oes rhesymau arall y gall fy man addoli neu ganolfan gymunedol agor?
Rydych yn medru gwneud gwaith cynnal a chadw i baratoi ar gyfer ail-agor ar ôl y ‘cyfnod clo byr’.
Rydych hefyd yn medru darlledu gwasanaethau o’ch man addoli, heb gynulleidfa. Mae gwaith yn esgus rhesymol i adael cartref sy’n galluogi arweinwyr ffydd ac unrhyw un sy’n darparu cymorth technegol angenrheidiol i fynd i fan addoli.

Gall fy man addoli agor fel atyniad ymwelwyr?
Na, mae’n rhaid i holl atyniad ymwelwyr gau.

A gawn ni barhau i redeg y caffi?
Mae’n rhaid i gaffis a bwytai gau ar gyfer gwasanaeth ar y safle er ei bod yn bosib cynnig gwasanaeth cludfwyd gyda mesurau gwarchod priodol.

A gawn ni addoli yn yr awyr agored?
Na, mae’r neges aros adre a’r cyfyngiadau ar gyfarfod aelwydydd arall yn golygu na fedrwch gynnal addoliad yn yr awyr agored yn ystod y ‘cyfnod clo’.

Rwy’n arweinydd ffydd, ydw i’n medru gweithio yn ystod y cyfnod clo byr?
Mae gweithio yn esgus rhesymol i adael eich cartref. Gellir ystyried bod arweinwyr ffydd cyflogedig a gwirfoddol yn gweithio wrth gyflawni eu dyletswyddau. Yn amlwg bydd nifer o’ch gweithgareddau arferol wedi eu cwtogi ond gall rai parhau. Er enghraifft, darlledu addoliad (heb gynulleidfa) yn ystod y ‘cyfnod clo’ a darparu gwasanaethau gwirfoddol angenrheidiol.
Wrth ddarparu eich dyletswyddau, cofiwch ni ddylech ymgymryd â’r gweithgaredd os oes ffordd amgen resymol o gynnig yr un gwasanaeth mewn dull sy’ a llai o risg ac mae’r rheolau ar gwrdd ag aelwydydd arall yn parhau i fod yn ddilys. Felly, er enghraifft, dylid cynnal gwasanaethau bugeiliol o bellter a dylid ond cyd-weithio ochr-yn-ochr ag eraill os yw’n angenrheidiol. Mae’r rheolau gweithio arferol megis gwisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter corfforol dal mewn grym.

A yw’n bosib cynnal priodas neu angladd?
Mae’n bosib gweinyddu priodasau, ffurfio partneriaethau sifil a chynnal angladdau. Nid yw hyn yn cynnwys ymgynulliadau cymdeithasol sy’n aml ynghlwm a’r digwyddiadau yma megis derbyniad priodas neu de angladd gan na ddylid cynnal y rhain yn ystod y cyfnod clo. Mae’r canllawiau cyfredol ar gyfer angladdau a phriodasau yn parhau’n gymwys;
Priodasau a phartneriaethau sifil
Angladdau

A yw’n bosib cynnal defodau i nodi digwyddiadau eraill mewn bywyd ?
Nac ydy, dylid gohirio ymgynnull ar gyfer seremonïau a defodau megis bedyddio, gwasanaethau coffa, Bar mitzvah neu Bat mitzvah, tan ar ôl y ‘cyfnod clo’.

A gaf i fynd i fynwent?
Cewch, mae’n esgus rhesymol i fynd i fynwent yn yr awyr agored yn ystod y ‘cyfnod clo’. Rhaid cofio mae’r disgwyliad yw i bawb aros adref felly dylid gohirio ymweliadau tan ar ôl y ‘cyfnod clo’ os yn bosib. Os yw’n rhaid, dylid nodi na ellir caniatáu i fwy nag un aelwyd ymgynnull ar yr un pryd.

Beth am Ŵyl yr Holl Saint a Gŵyl yr oll Eneidiau?
Rydym yn ymwybodol bod y gwyliau crefyddol pwysig yma yn ystod y ‘cyfnod clo’ ond mae’r angen i gael effaith ar ledaeniad y feirws yn golygu na fydd yn bosib cynnal gwasanaethau eleni. Gall aelwydydd unigol ymweld â bedd un annwyl a gall arweinwyr ffydd offrymu bendith ond ni ellir cyfuno’r ddau beth oherwydd bydd hynny yn creu ymgynulliad na ellir ei ganiatáu.
Ni chaniateir ymgynulliadau seciwlar ar gyfer Calan Gaeaf.

Beth am Divali/Diwali?
Rydym yn ymwybodol bod y gwyliau crefyddol pwysig yma yn digwydd yn fuan ar ôl diwedd y ‘cyfnod clo byr’. Gallwch baratoi ar gyfer y dathliadau ond dylid gwneud hyn yn rhithiol os yn bosib.

A all Madrassa, Ysgol Sul neu weithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant gael eu cynnal?
Tra bod gwasanaethau gofal plant yn medru parhau mewn mannau addoli a chanolfannau cymunedol, dylid gohirio darpariaethau addysgiadol megis Madrassa, Ysgolion Sul, dosbarthiadau iaith neu wasanaethau dan oruchwyliaeth eraill i blant tan ar ôl y ‘cyfnod clo’.

A yw bosib cynnal Gwasanaethau Coffa [nodyn gan Cytun – hynny yw Sul y Cofio]?
Ydy, mae’n bosib cynnal gweithred goffa wedi ei drefnu ymlaen llaw yn yr awyr agored i gyfanswm o 30 unigolyn ond ni ellir cynnal gwasanaethau o dan do. Mae canllawiau ar gyfer cynnal digwyddiadau coffa [Sul y Cofio] yma.

[Diwedd canllawiau Llywodraeth Cymru]
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i Trussell Trust y gall “gwasanaeth gwirfoddol hanfodol” fod yn wasanaeth hanfodol (yn unol a’r diffiniad uchod) a gynhelir gan elusen, hyd yn oed os yw’n cyflogi staff.