Papur Briffio Mawrth 18

Ar Fawrth 17 fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU, ar ran pedair llywodraeth gwledydd Prydain, grynodeb o ddeddfwriaeth argyfwng a gyhoeddir yn llawn ar Fawrth 19. Gellir gweld y crynodeb yma: https://www.gov.uk/government/publications/coronavirus-bill-what-it-will-do/what-the-coronavirus-bill-will-do (Saesneg yn unig). O ddiddordeb arbennig i eglwysi a chymunedau ffydd eraill fydd y trefniadau newydd parthed y meirw ac angladdau. Fe ddywedodd Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, yn Senedd Cymru yddoe y bydd y mesur hefyd yn cynnwys rhywfaint o lacio ar fesurau diogelu plant a phobl fregus, e.e. caniatáu i bobl sy’n gwirfoddoli ddechrau gweithio gyda phobl fregus tra bod eu cais DBS yn cael ei brosesu ond eu bod dan oruchwyliaeth rhywun sydd â gwiriad DBS. Arhoswn i weld y manylion, ac fe gyhoeddir papur briffio llawn gan Cytûn naill ai Mawrth 19 neu Fawrth 20.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn cyfarfod â Llywodraeth Cymru ar Fawrth 18, a bydd cyfarfod briffio i Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (gan gynnwys Cytûn ar ran y cymunedau ffydd) ar Fawrth 20.

Mae rhan fwyaf yr eglwysi a chymunedau ffydd bellach wedi cyhoeddi atal eu haddoli a gweithgarwch arall yn wyneb cyfarwyddyd y ddwy Lywodraeth. Gellir gweld cyfarwyddyd Llywodraeth y DU yma: https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-guidance-on-social-distancing-and-for-vulnerable-people/guidance-on-social-distancing-for-everyone-in-the-uk-and-protecting-older-people-and-vulnerable-adults a chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru yma: https://llyw.cymru/cyngor-coronafeirws-covid-19 . Er bod y geirio yn wahanol, yr un yw byrdwn y ddau. Er nad yw’r naill na’r llall yn cyfeirio yn benodol at weithgarwch crefyddol, dyma ddywedwyd gan Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matthew Hancock, yn Nhŷ’r Cyffredin nos Lun: We have taken advice on how to respond to the crisis, including from our ethics committee, which includes representatives of the major religious faiths. It is true that we include religious groups in our advice about social contact. We have seen from elsewhere in the world how sometimes it is through religious gatherings that the virus can spread so, with the deepest regret and the heaviest of heart, we include faith groups and gatherings of faith within the advice. https://hansard.parliament.uk/Commons/2020-03-16/debates/235689EC-0A18-4488-BFCF-9F012A1A0C1B/Covid-19?highlight=religious#contribution-CFCDD9D0-E31F-427F-8588-7E5251E27D65

Gellir gweld dolenni i gyfarwyddyd y prif grefyddau dros Brydain yma: https://www.interfaith.org.uk/news/faith-communities-and-coronavirus

Mae gan yr Eglwys yng Nghymru gyfrifoldebau cyfreithiol o ran bedyddio, priodi ac angladdau nad ydynt yn berthnasol i enwadau a chrefyddau eraill, ac felly – rhag ofn y daw ymholiadau – byddai’n beth da i arweinyddion a gweinidogion o bob enwad a chymuned fod yn ymwybodol o gyfarwyddyd yr Eglwys yng Nghymru. Gellir ei ddarllen yn llawn yma: https://www.churchinwales.org.uk/documents/759/Covid_19_Guidance_17_March_2020.pdf (dwyieithog)

O ran enwadau eraill â’u pencadlysoedd yng Nghymru, gellir gweld cyfarwyddyd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yma: http://annibynwyr.cymru/ (cliciwch ar ‘Newyddion diweddaraf’); Eglwys Bresbyteraidd Cymru: https://www.ebcpcw.cymru/cy/coronafeirws/; ac Undeb Bedyddwyr Cymru yma: http://www.buw.org.uk/170320-cyngor-coronafeirws-covid-19/  Mae’r dolenni hyn yn gywir am 11.00 ar Fawrth 18; dichon y bydd cyfarwyddyd newydd eto cyn bo hir.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU nos Fawrth becyn ychwanegol o gymorth i fusnesau, a mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhai mesurau. Gellir gweld arweiniad hylaw i’r cyfan ar dudalen Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru – https://www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-information-for-individuals-and-businesses-in-wales.cy  Nid oes cyfeiriad penodol yn y cyhoeddiadau hyn at elusennau (ond fe fyddai’n werth i fusnesau elusennol, megis caffis cymunedol a gynhelir gan grwpiau crefyddol, holi). Fe ddisgwylir cyhoeddiadau pellach dros y diwrnodau nesaf.