Papurau briffio cyn 13 Gorffennaf 2020

Ar Fawrth 17 fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 a’u cychwyn y diwrnod canlynol. Mae hyn yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ac ymgynghorwyr Iechyd y Cyhoedd fynnu bod unigolion sydd dan amheuaeth o gario’r coronafeirws, neu sy’n cyrraedd o’r tu allan i Gymru, i gael eu profi a/neu hunan-ynysu neu eu cadw nhw’n gaeth, neu osod cyfyngiadau eraill arnyn nhw. Mae gwrthod cydymffurfio yn drosedd a gellir arestio’r sawl sy’n gwrthod. Gall y sawl sy’n ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyn apelio i lys ynadon.

Ar Fawrth 19 fe gyflwynodd Llywodraeth y DU, ar ran pedair llywodraeth y DU, y Bil Coronafeirws yn Senedd y DU. Gyda rhai newidiadau, fe gafodd ei basio gan Dŷ’r Cyffredin ar Fawrth 23 a Thŷ’r Arglwyddi ar Fawrth 24 a 25, gan dderbyn Cydsyniad Brenhinol ar Fawrth 25. Mae bellach yn Ddeddf Coronafeirws 2020. Bydd angen i Senedd y DU adnewyddu’r ddeddfwriaeth bob chwe mis. Fe gytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fawrth 24. Ni all Senedd Cymru newid y Ddeddf, ac ni fydd ganddi ran ffurfiol yn yr adnewyddu bob chwe mis, ond bydd angen iddi gytuno i’r is-ddeddfwriaeth parthed meysydd datganoledig a wneir yn sgîl y Bil.

Mae nifer o fesurau nad ydynt wedi eu cynnwys yn y Bil, a maent yn cael eu gweithredu mewn ffyrdd eraill. Fe restrir y rhain yn dilyn darpariaethau’r Ddeddf ar waelod y dudalen hon.

Oherwydd natur yr argyfwng, gellir cychwyn, atal neu ail-weithredu gwahanol rannau o’r Ddeddf gan ddibynnu ar hynt yr haint. O ganlyniad, ni fydd yr holl fesurau o reidrwydd yn weithredol ar yr un pryd.

Ym Mehefin 2020, fe gychwynnwyd llacio cyfyngiadau yn raddol, gan gamu i’r Cyfnod COCH. Gellir gweld manylion y cyfnod hwn isod:

Llacio’r cyfyngiadau o Fehefin 22 2020

Ar Ebrill 24, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer sut y bydd yn gwneud penderfyniadau parthed llacio’r cyfyngiadau. Bydd materion cydraddoldeb yn greiddiol i’r broses benderfynu (tud. 7 yn y ddogfen).
Ar Fai 15, cyhoeddwyd dogfen fwy manwl, Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod. Mae hon yn rhagweld tri cham bras rhwng y cyfnod cloi a dileu’r cyfyngiadau. O ran addoldai, byddai’r cam,au hyn yn golygu:
COCH: Agor mannau addoli ar gyfer gweddïo preifat gan gadw pellter corfforol.
OREN: Cyfyngu ar wasanaethau a maint cynulliadau gyda’r gallu i gadw pellter corfforol.
GWYRDD: Agor pob man addoli ar gyfer eu holl wasanaethau, ynghyd â chadw pellter corfforol.

Ar Fehefin 19 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o newidiadau yn llacio’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn raddol dros y tair wythnos ddilynol. Gellir darllen cyflwyniad y Llywodraeth i’r newidiadau hyn yma – https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-newidiadau-o-ddydd-llyn-22-mehefin Gallwch weld y rheoliadau llawn, yn dangos y newidiadau ddaeth i rym ar Fehefin 22, yma: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-06/rheoliadau-diogelu-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-cymru-2020-ar-newidiadau-wedi-harddangos-20-mehefin-2020.pdf
Mae Canllawiau‘r Llywodraeth ar gael yma: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ailagor-mannau-addoli-coronafeirws-html
Dyma’r newidiadau sy’n effeithio ar addoldai:

  1. O Ddydd Llun Mehefin 22 caniateir i addoldai agor ar gyfer gweddi breifat gan unigolion (neu fesul aelwyd) nad yw’n rhan o gydaddoli. Bydd rhaid cadw pellter cymdeithasol ac ni fydd hawl ymgynnull. Bydd ail-agor yn amodol ar gynnal asesiad risg a gosod trefniadau hylendid a glanhau priodol yn eu lle.
  2. Hefyd o Fehefin 22, mae modd i ddarparwyr gofal plant cofrestredig ar gyfer oedrannau 0-12 ail-agor neu gynyddu nifer y plant dan eu gofal tu hwnt i ofalu am blant gweithwyr hanfodol yn unig. Gellir gweld y canllawiau llawn yma: https://llyw.cymru/mesurau-diogelu-mewn-lleoliadau-gofal-plant-cadw-gofal-plant-yn-ddiogel#section-43618. Yn achos gofal plant a leolir mewn addoldy neu ganolfan gymunedol, mae angen cais gan yr Awdurdod Lleol i hyn ddigwydd. Dylid trefnu hynny trwy’r darparwr gofal plant, a dylid dilyn unrhyw gyfarwyddiadau ychwanegol a bennir gan yr Awdurdod Lleol cyn ail-agor.
  3. Bydd y defnydd a ganiateid eisoes ar gyfer addoldai yn parhau – angladdau gyda chynulleidfaoedd cyfyngedig; darparu “gwasanaethau gwirfoddol hanfodol” megis banciau bwyd a gwasanaethau i’r digartref; gwasanaethau cyhoeddus, megis sesiynau rhoi gwaed, ar gais yr awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru; ac i arweinydd ddefnyddio’r addoldy ar gyfer darlledu neu recordio oedfa.
  4. Mae’r rheoliadau hefyd yn caniatáu cynnal priodasau gyda chynulleidfa gyfyngedig. Deallwn fod cofrestryddion sirol bellach yn derbyn rhybudd ar gyfer priodasau, a felly hefyd yr Eglwys yng Nghymru. Mae canllawai uamnwl yn cael eu paratoi gan Lywodraeth Cymru a bydd dolen iddynt yma cyn gynted ag y byddant ar gael. 

Nid oes raid i unrhyw addoldy fanteisio ar unrhyw rai o’r cyfleoedd hyn – mater i’r awdurdod enwadol neu leol priodol fydd penderfynu hynny, yn dilyn eu trefn enwadol.

Fe fydd o gymorth i addoldai sydd am ystyried hyn yn fuan weld y canllawiau a gyhoeddwyd gan ein haelod eglwysi – yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig (Saesneg yn unig) – ond gan nodi bod trefn pob enwad yn wahanol, a bydd raid addasu yn ôl y drefn honno. Mae’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig hefyd wedi cynhyrchu asesiad risk personol ar gyfer unigolion sy’n bryderus am eu diogelwch mewn addoldy.

Mae nifer o ganllawiau swyddogol eraill ar gael, a all fod yn ddefnyddiol wrth drefnu ail-agor. Ni fydd pob canllaw yn berthnasol i bob adeilad na sefyllfa, ond credwn y bydd meddu ar y rhestr hon yn caniatáu i reolwyr adeiladau ddechrau ar y gwaith rhagbaratoi pe dymunent:

Gweithio’n ddiogel yn ystod cyfnod coronafeirws (Saesneg):
https://www.gov.uk/guidance/working-safely-during-coronavirus-covid-19/5-steps-to-working-safely

Gweithio’n ddiogel mewn swyddfeydd a gweithleoedd tebyg:
https://www.gov.uk/guidance/working-safely-during-coronavirus-covid-19/offices-and-contact-centres

Canllawiau asesu risg y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (Saesneg)
https://www.hse.gov.uk/coronavirus/working-safely/risk-assessment.htm#

Adnodd asesu risg COVID ar gyfer y gweithlu. Lluniwyd hwn ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Mae yna fwriad i lunio rhai ar gyfer gweithleoedd eraill, ond fe fydd hwn yn fan cychwyn da.
https://llyw.cymru/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu  

Dylai eglwysi sydd am ail-agor siop elusen ddarllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer manwerthwyr. Fe all y cewch yn ddefnyddiol hefyd yr arweiniad hwn gan y Charity Retail Association a luniwyd yn benodol ar gyfer manwerthwyr elusennol.

Cyngor ynghylch glanhau adeiladau nad ydynt yn sefydliadau gofal iechyd wedi darganfod achos o Covid-19 yn gysylltiedig ag ef (Saesneg):
https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-decontamination-in-non-healthcare-settings/covid-19-decontamination-in-non-healthcare-settings
Disgwylir cyhoeddi canllawiau ar lanhau dan amgylchiadau eraill. Ond mae’r canllawiau a ganlyn yn cyflwyno’r prif egwyddorion a maent yn berthnasol i eglwysi sydd wedi agor ar gyfer gweddi breifat:
Pan fo angen i chi fynd i mewn i [leoliad dan do lle y gall aelodau aelwydydd eraill fod yn bresennol], mae’n bwysig iawn eich bod chi ond yn gwneud hynny os ydych yn iach, heb unrhyw symptomau, eich bod chi’n dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo a hylendid anadlol a sicrhau eich bod yn cyffwrdd â chyn lleied o arwynebau â phosibl. Nid ydym yn argymell defnyddio gorchudd wyneb. Yr egwyddor gyffredinol yw na ddylech gyffwrdd ag unrhyw beth y mae aelodau cartref arall wedi cyffwrdd ag ef. Mae handlenni drysau, botymau canu clychau a switshys goleuadau yn ffynonellau heintio posibl. Dylid osgoi cyffwrdd ag arwynebau pryd bynnag y bo’n bosibl, a dylai unrhyw beth y mae angen ichi gyffwrdd ag ef gael ei lanhau’n drwyadl wedi hynny. Ni ddylid defnyddio cyfleusterau a rennir (megis toiledau) os yw hynny’n bosibl a dylid eu glanhau’n drylwyr cyn ac ar ôl eu defnyddio os nad oes modd osgoi eu defnyddio.
https://llyw.cymru/canllawiau-ar-aros-yn-lleol-ac-ymgynnull-coronafeirws

Canllawiau statudol am gymryd camau rhesymol i gadw pellter corfforol mewn gweithleoedd:
https://llyw.cymru/cymryd-pob-cam-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithle
https://llyw.cymru/cymryd-pob-mesur-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithle-canllawiau-atodol

Symud tŷ yn ystod y cyfnod hwn (bydd hyn yn cynnwys clerigion a gweithwyr crefyddol yn symud) – https://llyw.cymru/symud-ty-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws

Gwirio am legionella wrth ail-agor adeiladau (Saesneg) – https://www.hse.gov.uk/coronavirus/legionella-risks-during-coronavirus-outbreak.htm

Profi, olrhain, diogelu: https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-eich-cwestiynau

Cyfarpar diogelu personol (PPE) https://www.hse.gov.uk/pubns/welsh/indg174w.pdf 

Gorchuddion wynebau: https://llyw.cymru/gorchuddion-wyneb-cwestiynau-cyffredin

Gwneud gorchudd wyneb: https://llyw.cymru/sut-i-wneud-gorchudd-wyneb-3-haen

Teitho https://llyw.cymru/teithion-ddiogel-coronafeirws-canllawiau-ir-cyhoedd

Hunan ynysu ac aros gartref lle bo achos posibl o Coviod-19
https://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posibl-covid-19

Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant
https://llyw.cymru/mesurau-diogelu-mewn-lleoliadau-gofal-plant-cadw-gofal-plant-yn-ddiogel

Gellir gweld crynodeb o’r holl reoliadau cyfredol a chwestiynau cyffredin amdanynt fan hyn:       
https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

Isod gwelir crynodeb o brif ddarpariaethau’r Ddeddf Coronafeirws a’r is-ddeddfwriaeth berthnasol sy’n gymwys yng Nghymru, yn canolbwyntio ar y meysydd hynny sy’n debygol o fod o ddiddordeb penodol i’r eglwysi. Nid yw’n gyflwyniad cyflawn ac ni ddylid dibynnu arno at ddibenion cyfreithiol.

Iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys gwirfoddoli
  1. Galluogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi gadael y cofrestri o fewn y 2-3 blynedd ddiwethaf i ail-gofrestru, a sicrhau na fydd effaith ar eu hawliau pensiwn o ganlyniad. Yng Nghymru, mae hyn hefyd yn cynnwys eu galluogi i ail-ddechrau gweithio cyn iddynt dderbyn cadarnhad gan y DBS (ond nid yw llacio gofynion DBS ar gyfer gwirfoddolwyr eraill yn gynwysedig yn y ddeddf hon) a galluogi meddygon teulu i gyflawni dyletswyddau y tu hwnt i’w cylch gwaith arferol.
  2. Cyflwyno Cyfnod Gwirfoddoli Argyfwng am 4 wythnos yn yr 16 wythnos gyntaf, ac yna am 4 wythnos ymhob cyfnod 16 wythnos ddilynol. Bydd hyn yn rhoi’r hawl i bobl gymryd absenoldeb di-dâl o’u gwaith presennol i wirfoddoli mewn cynllun cydnabyddedig i helpu gydag argyfwng coronafeirws. Cynigir eu costau a pheth iawndal (ond nid eu tâl llawn) am bob cyfnod o wirfoddoli. Bydd is-ddeddfwriaeth yn pennu manylion y cynlluniau a’r cyllid. Gellir dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru drwy wefan Gwirfoddoli Cymru.
  3. Darparu indemniti trwy’r wladwriaeth ar gyfer pawb sy’n cynnig helpu gyda iechyd a gofal cymdeithasol dan 1 a 2 uchod ac nad ydynt eisoes wedi eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
  4. Caniatáu i awdurdodau lleol leihau faint o ofal cymdeithasol y maent yn ei gynnig i unigolion islaw y lefel yng nghynllun gofal yr unigolyn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond bod y gostyngiad ddim yn amharu ar hawliau dynol yr unigolyn; a gohirio diweddariadau tymhorol cynlluniau gofal unigol. Dyma un o agweddau mwyaf dadleuol y Ddeddf, gyda’r Arglwyddes Tanni Grey-Thompson yn ei disgrifio yn Nhŷ’r Arglwyddi fel “Bil diddymu gofal iechyd a chymdeithasol” Yn wyneb sylw felly, mae’n bwysig i Lywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau moesol ar gyfer darparu gofal Cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn.
    Fe sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Cytûn a nifer o gymunedau ffydd eraill, a chaplaniaid gofal iechyd. Fe gyhoeddodd ar Ebrill 12 Coronafeirws: Gwerthoedd ac egwyddorion moesegol ar gyfer darparu gofal iechyd. Yn sgîl hynny fe ysgrifennodd Prif Swyddog Meddygol a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru at Fyrddau Iechyd ar Ebrill 17 am sut i wneud penderfyniadau o ran cynnig neu beidio â chynnig triniaethau dadebru cardio-anadlol.

Marwolaeth a phrofedigaeth
  • Caniatáu cofrestru o bell marwolaethau a marw-enedigaethau, yn hytrach nag yn bersonol, a chan ymgymerwr angladdau yn hytrach na chan berthynas agos i’r ymadawedig. Fe atelir yr angen am lofnod gan ail feddyg cyn amlosgi corff, ac felly hefyd yr angen i’r meddyg fod wedi gweld y claf o fewn yr 14 diwrnod cyn marw.
  • Atal yr angen am gynnal cwest gyda rheithgor pan fo rhywun yn marw o’r coronafeirws.
  • Cyflwyno pwerau eang i reoli cludo, storio neu gwaredu cyrff meirw neu olion dynol eraill pan fo’r trefniadau arferol yn agos at fod yn llawn. Cadarnhaodd Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, wrth siarad ym Mhwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ar Fawrth 19, y gallai hyn gynnwys atal yn llwyr angladdau a/neu waredu ar bob corff yn unigol. Byddai methu â chydymffurfio yn drosedd.
    Mae’r ddarpariaeth gyfreithiol yn Atodlen 27 i’r Bil. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar Ebrill 24 ganllawiau manwl ar gyfer defnyddio’r pwerau hyn. Mae Adran 5 y canllawiau yn cynnwys arweiniad manwl am sut y dylai awdurdodau lleol yn yr amgylchiadau hyn ceisio sicrhau fod dymuniadau’r ymadawedig, eu teuluoedd a’u cymunedau ffydd gael eu parchu gymaint ag sy’n bosibl. Lluniwyd y cyfarwyddyd yma wedi ymgynghori â chymunedau ffydd trwy Is-Grŵp Angladdau y Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19.
    Noder mai yn unig mewn argyfwng mawr, pan fo nifer helaeth o farwolaethau yn bygwth gorlethu’r drefn arferol, y byddai’r gofynion hyn yn berthnasol. Hyd oni cyrhaeddir y fath argyfwng, mae’r canllawiau presennol yn dal mewn grym (neu, yn achos angladd a gynhelir yn Lloegr, canllawiau Llywodraeth y DU parthed Lloegr. Noder bod y ddogfen o Loegr yn cynnwys arweiniad defnyddiol am bobl fregus allai fod am fynychu angladdau.

Diogelwch cenedlaethol
  • Newid y drefn ar gyfer awdurdodi defnyddio’r Ddeddf Pwerau Ymchwilio gan y gwasanaethau diogelwch.

Cyflenwad bwyd
  • Gorfodi pawb sydd ynglŷn â’r gadwyn cyflenwi bwyd i ddarparu gwybodaeth i’r llywodraethau pan ofynnir am hynny er mwyn eu galluogi i gynllunio ar gyfer cyflenwad bwyd di-dor.

Addysg

Rhoi pwerau i weinidogion orfodi meithrinfeydd, ysgolion (gan gynnwys ysgolion preifat), colegau Addysg Bellach a sefydliadau Addysg Uwch (gan gynnwys neuaddau preswyl) aros ar agor neu gau neu newid y gwasanaethau maent yn eu darparu. Fe ddefnyddiwyd y grymoedd hyn cyn pasio’r ddeddfwriaeth. O Fawrth 23, mae ysgolion a meithrinfeydd ar agor yn llawn amser dim ond i rai plant bregus ac i blant gweithwyr sy’n hanfodol i’r ymateb i COVID-19, er dros y cyfnod Mehefin 29-Gorffennaf 17 bydd pob disgybl yn cael cyfle i fynychu am ychydig. Cynhwysir “staff crefyddol” yn y rhestr o weithwyr hanfodol, ond mae’n bwysig nodi’r cyfyngiad ar hynny (fel yn achos pob categori arall o weithwyr): “Os oes modd gofalu am blentyn yn ddiogel gartref, dylid gwneud hynny a dim ond lle nad oes dewis diogel arall y dylid gwneud darpariaeth mewn ysgolion neu leoliadau eraill.” Mae awdurdodau lleol hefyd yn darparu ar gyfer plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.
Ar Ebrill 20, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu am weithredu’r drefn addysg yn y cyfnod presennol, sy’n berthnasol i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion ag iddynt syflaen grefyddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgymhwyso gofynion y cwricwlwm sylfaenol (gan gynnwys Addysg Grefyddol) tan o leiaf ddiwedd tymor yr haf, ond nid yw’r gofyniad ar gyfer addoli ar y cyd wedi’i ddatgymhwyso.

Treth a budd-daliadau
  1. Tynnu’r cyfnod aros 4 diwrnod am dâl salwch statudol (SSP) ac ad-dalu cyflogwyr am gostau talu SSP i’r sawl sydd wedi bod, neu yn, hunan-ynysu oherwydd y coronafeirws.
  2. Caniatáu i Lywodraeth y DU ostwng (ond nid codi) cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol yn ystod blwyddyn dreth 2020-21 trwy reoliadau.

Cau porthladdoedd
  1. Caniatáu i Lywodraeth y DU atal gweithredu gan Border Force mewn porthladdoedd os nad oes digon o staff, ac felly gorfodi’r porthladdoedd hynny i gau.

Rheoli’r haint yn cynnwys defnyddio addoldai a chynnal gwasanaethau angladd a phriodas
  1. Ail-ddatgan y grymoedd sydd eisoes yn Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 a’u hymestyn i fwy o swyddogion iechyd y cyhoedd (nid ymgynghorwyr iechyd y cyhoedd yn unig) ac i swyddogion mewnfudo. Cynhwysir y pwerau ar gyfer Cymru yn Atodlen 20 Rhan 4 y Bil.
  2. Rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Chymru atal neu cyfyngu ar ddigwyddiadau neu gynulliadau a chau neu cyfyngu ar ddefnydd mangreoedd. Cynhwysir y pwerau ar gyfer Cymru yn Atodlen 21 Rhan 4 y Bil. Maent yn rhychwantu pob math ar ddigwyddiad, cynulliad a mangre heb eithriadau, yn cynnwys addoldai a chynulliadau crefyddol. Mae’r Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU a Chymru dalu iawndal, ond nid yw’n eu gorfodi i wneud hynny.
  3. Mae’r rheoliadau yn dweud mai’r unig wasanaethau a ganiateir o fewn man addoli yw gwasanaeth angladd ar gyfer nifer diogel o bobl, a gwasanaethau priodas neu bartneriaeth sifil (gweler isod). Yn y ddau achos, rhaid cadw pellter o 2 fetr rhwng pob un (ag eithrio aelodau o’r un aelwyd). Bydd yr unigolyn (neu’r awdurdod) sy’n gyfrifol am y man addoli yn pennu nifer y bobl all fynychu’r gwasanaeth. Bydd raid wedyn gwahodd y bobl hynny yn unigol. Dim ond y sawl a wahoddir, y trefnydd angladdau ac arweinydd yr oedfa gaiff fod yn bresennol mewn angladd. [Mae cyfyngiadau tebyg yn eu lle o ran defnyddio crematoria a mynwentydd ar gyfer gwasanaethau angladd]. Gellir gweld cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru am gynnal angladdau trwy ddilyn y ddolen hon. Argymhellir hefyd fod gweinidogion ac arweinyddion angladdau yn darllen y cyfarwyddyd a ddanfonwyd at awdurdodau lleol yng Nghymru, sydd yn cynnwys cyfarwyddyd defnyddiol am sut i drefnu’r gwahoddiadau i wasanaeth angladd: – https://llyw.cymru/canllawiau-i-awdurdodau-lleol-ar-angladdau-covid-19
    Fe ddylai gweinidogion ac arweinyddion angladdau ar hyd y ffin â Lloegr sy’n defnyddio amlosgfeydd neu fynwentydd yno gofio mai rheoliadau Lloegr sy’n berthnasol unwaith y croesir y ffin.
  4. Gan nad yw cyfraith priodas wedi ei datganoli, nid yw ar hyn o bryd yn bosibl cofrestru priodas neu bartneriaeth sifil ag eithrio trwy Drwydded Arbennig gan Archesgob Caergaint, neu Drwydded Gyffredin (a gyhoeddir gan Ddirprwy a benodwyd i weithredu ar ran Esgob yr esgobaeth leol). Golyga hyn mai dim ond yr Eglwys yng Nghymru (ac Eglwys Loegr) all gynnal gwasanaethau o’r fath ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod â Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol ynghylch y posibilrwydd o ymestyn priodasau (a, lle bo’n gymwys, partneriaethau sifil) o’r fath i addoldai eraill.
  5. Gall “gweinidog yr efengyl neu arweinydd addoli” ar ei ben/ei phen ei hun recordio neu ddarlledu gwasanaeth o addoldy heb gynulleidfa.
  6. Caniateir cynnal “gwasanaethau gwirfoddol hanfodol” megis banciau bwyd neu ddarpariaeth ar gyfer y digartref ac – ar gais awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru – wasanaethau cyhoeddus megis sesiynau rhoi gwaed mewn man addoli neu ganolfan gymunedol (gan gynnwys canolfan gysylltiedig a man addoli). Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hefyd y gall eglwysi drefnu i gontractwyr gael mynediad i addoldai er mwyn cyflawni gwaith cynnal a chadw angenrheidiol. Wrth wneud trefniadau felly, cofier (o Ebrill 7) fod methu â chymryd camau rhesymol i sicrhau cadw pellter o 2 fetr rhwng pob un mewn lle felly (ag eithrio aelodau o’r un aelwyd) – ac mewn unrhyw weithle arall – yn drosedd yng Nghymru.
  7. Ar Ebrill 24 diweddarwyd y canllawiau am gau adeiladau a mangreoedd yng Nghymru trwy ychwanegu brawddeg i egluro nad oes raid cau mynwentydd na gerddi coffa, ond bod sicrwydd y gall pawb yno gadw pellter o 2 fetr oddi wrth ei gilydd.
  8. Gall awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru hefyd trefnu defnyddio addoldy at unrhyw bwrpas a ystyrir yn hanfodol yn ystod yr argyfwng.

    Gellir gorfodi’r cyfyngiadau hyn gan yr heddlu, yr awdurdod lleol a’r Llywodraeth, a gallant “ddefnyddio gryn rhesymol” i fynd i mewn i’r lle os oes angen.

Llysoedd a thribiwnlysoedd
  1. Caniatáu i lysoedd a thribiwnlysoedd gynnal mwy o wrandawiadau o bell, yn enwedig lle y gallai cyfranogwyr fod yn cario’r coronafeirws neu yn apelio yn erbyn gorchymyn a wnaed dan y ddeddfwriaeth hon. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai’r cyhoedd yn gallu gwylio’r achosion arlein fel bod gweinyddu cyfiawnder yn parhau yn dryloyw.
  2. Caniatáu i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru weithredu gyda phanel un aelod neu ddau aelod yn hytrach na phanel tri aelod, a’i alluogi i benderfynu achosion ar sail tystiolaeth ysgrifenedig yn unig. Ar Ebrill 21, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau manwl am weithredu pwerau dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 i ryddhau cleifion o dan yr amodau presennol.

Etholiadau
  1. Caniatáu i weinidogion y DU ohirio etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd oedd i’w cynnal ar 7 Mai 2020 (a maent eisoes wedi gwneud hynny tan 6 Mai 2021, sy’n golygu y byddant bellach yn cyd-ddigwydd gydag etholiadau nesaf Senedd Cymru).
  2. Caniatáu i Weinidogion Cymru ohirio unrhyw is-etholiadau lleol tan ddyddiad heb fod ar ôl 6 Mai 2021.
  3. Caniatáu i’r Llywydd ohirio unrhyw is-etholiadau i seddi etholaethol Senedd Cymru tan ddyddiad heb fod ar ôl 6 Mai 2021.

Tenantiaethau preswyl a busnes
  1. Estyn y cyfnod rhybudd y mae angen i landlord ei roi i denant preswyl i dri mis o leiaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai ymestyn y cyfnod hwn drwy is-ddeddfwriaeth i chwe mis, mater sydd o hyd dan ystyriaeth. [Mae yna eisoes bil gerbron Senedd Cymru i wneud y newid hwn yn un parhaol yng Nghymru, ac mae Cytûn yn ceisio cyfarfod â llywodraeth Cymru i rannu gofid yr eglwysi am y newid parhaol hwnnw]. Bydd hyn yn effeithio ar bob eglwys sy’n gosod eiddo preswyl, gan gynnwys tai clerigion y byddid wedi disgwyl eu hadfeddiannu ar gyfer lletya gweinidog newydd. Bydd hefyd yn effeithio ar weinidogion sydd yn byw mewn mans. persondy, ayb ac sydd ar fin ymddeol, gan na fyddant yn gallu rhoi rhybudd cyflym i’r tenant yn eu heiddo ymddeol i ymadael. Gwelir y manylion llawn yn Atodlen 29 y Ddeddf.
    Yn ogystal, fe gyhoeddwyd moratoriwm yn llysoedd Cymru a Lloegr o ran ymdrin ag achosion o droi allan tenantiaid preswyl o’u heiddo. Ar Fehefin 5, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod y moratoriwm wedi ei estyn tan Awst 23 2020, gyda’r bwriad o gyflwyno rhyw fesur newydd wedi hynny.

Anogir eglwysi i feddwl yn greadigol am sut i ymdrin â’r sefyllfa hon, e.e. drwy ddefnyddio eiddo gwag arall ar gyfer lletya gweinidogion, hyd yn oed os nad yw o fewn yr ofalaeth gywir neu o’r safon ddisgwyliedig; caniatáu i weinidogion sydd wedi ymddeol aros yn y mans/persondy am y tro (yn wir, bydd raid gadael iddynt wneud hynny am chwe mis o leiaf); gofyn am ddefnyddio eiddo preswyl gwag yn nwylo gweinidogion neu aelodau eglwysig fyddai fel arfer yn llety gwyliau neu ar osod.

2. Atal landlordiaid ar eiddo busnes hyd at 30 Mehefin 2020 rhag troi tenant allan am fethu talu rhent yn ystod cyfnod yr argyfwng. Gellir ymestyn y cyfnod hwn trwy is-ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn effeithio ar bob eglwys sy’n gosod eiddo ar denantiaeth fusnes neu sy’n rhentu eiddo o’r fath ar gyfer ei gweithgarwch.

Cyllid
  • Mae’r Ddeddf yn rhoi awdurdod dilyffethair i weinidogion y DU wario ar fesurau parthed coronafeirws, ac mae’r Contingencies Fund Act 2020 yn galluogi Llywodraeth y DU i gynyddu’r gronfa argyfwng o 2% i gyn gymaint a 50% o wariant blynyddol y Llywodraeth. Nid yw’r Ddeddf yn cymhwyso hyn i’r gweinyddiaethau datganoledig, ac nid oes ganddynt yr un pwerau benthyca ag sydd gan Lywodraeth y DU, felly mae Llywodraeth Cymru yn parhau yn ddibynnol ar dderbyn arian ychwanegol o Lywodraeth y DU.

Diogelu pobl (gwiriadau DBS)

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi peth ystwytho ar y trefniadau o ran gwirio hunaniaeth ar gyfer y cynllun DBS. Ond ar hyn o bryd mae gweddill y drefn DBS yn aros yn ei lle a dylai eglwysi barhau i’w gweithredu.

Newidiadau Nawdd Cymdeithasol, cefnogaeth i fusnes a’r Cynllun Cadw Swyddi
  • Cyhoeddwyd pecyn o fesurau buddiannau cymdeithasol ac iawndal ar gyfer busnesau gan Ganghellor y Trysorlys ar Fawrth 20
  • Agorodd Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CJRS, a adweinir yn gyffredinol fel cynllun furlough) ar gyfer ceisiadau ar Ebrill 20. Wedi peth dryswch, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau fod y sawl sydd â statws cyflogaeth ‘deiliad swydd’ (office holder) yn gymwys ar gyfer y cynllun ‘furlough’ (Job Retention Scheme), ar yr amod eu bod yn cael eu talu trwy gyflogres sy’n defnyddio cynllun TAW (PAYE) erbyn 19 Mawrth 2020. Mae’r categori hwn o ddeiliaid swydd yn cynnwys llawer o weinidogion ordeiniedig (ond nid pob un). Dilynwch y ddolen uchod a sgrolio lawr y dudalen i’r adran fer am ‘office holders’.
    O 1 Gorffennaf 2020, gall cyflogwyr ail-gyflwyno cyflogeion a fu ar gyfnod saib (furlough) cyn hynny am unrhyw oriau a phatrwm shifftiau, tra o hyd yn gallu hawlio grant dan Gynllun Cadw Swyddi Coronavirus (CJRS) am eu horiau arferol nas gweithiwyd. Bydd raid i gais gan gyflogwr am grant CJRS ar gyfer oriau saib eu cyflogeion fod am leiafswm o wythnos.
    Bydd y cynllun yn cau ar gyfer gweithwyr newydd o 30 Mehefin. O hynny ymlaen, bydd cyflogwyr ond yn gallu rhoi ar gyfnod saib cyflogeion a fu ar gyfnod saib am gyfnod llawn o 3 wythnos cyn 30 Mehefin. Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad olaf i gyflogwr osod cyflogai ar gyfnod saib am y tro cyntaf fydd 10 Mehefin, er mwyn cwblhau’r cyfnod saib 3 wythnos erbyn 30 Mehefin. Bydd gan gyflogwyr tan 31 Gorffennaf i gyflwyno unrhyw gais ar gyfer y cyfnod tan 30 Mehefin. Fe gyhoeddir cyngor pellach ar gyfnodau saib hyblyg a ut y dylai cyflogwyr gyfrifo’u ceisiadau ar 12 Mehefin.
  • Mae Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr wedi cyhoeddi canllaw hynod ddefnyddiol ar y CJRS. Dylid nodi mai at drefn y Bedyddwyr y cyfeirir y wybodaeth hon; bydd angen cymwyso arweiniad y Bedyddwyr yn achos trefn eglwysig arall.
  • Mae cyfraith cyflogaeth yn faes arbenigol a chymhleth, a dichon y bydd enwadau am gymryd cyngor arbenigol ar oblygiadau’r cynllun hwn cyn ei weithredu.
  • Cyflwynwyd newidiadau i’r cynllun Credyd Cynhwysol. Dilynwch y ddolen am wybodaeth yn y Gymraeg.
  • Cyhoeddwyd pecyn ar gyfer pobl hunan-gyflogedig ar Fawrth 26.

Cefnogaeth ychwanegol i elusennau
  • Mae elusennau yn gallu cyrchu’r pecynnau cefnogi busnes a’r Cynllun Cadw Swyddi gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys (gweler yr adran uchod).
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau gynllun i helpu elusennau, ac fe’u hagorwyd i geisiadau ar Ebrill 14:
    1. Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol (ar gyfer elusennau sy’n helpu’n uniongyrchol gyda COVID-19 a’i effeithiau ar gymdeithas) – https://wcva.cymru/cy/cyllid/cynllun-grant-gwirfoddoli-cymru/ Mae’r gronfa hon ar agor i bob mudiad gwirfoddol yng Nghymru sy’n “grwp sefydledig”, felly dylai pob grwp ffydd allu ei chyrchu, o fwrw eu bod yn cwrdd a’r amodau perthnasol.
    2. Cronfa gwydnwch trydydd sector Cymru (ar gyfer elusennau y mae eu gwytnwch wedi ei sigo gan yr argyfwng) – https://wcva.cymru/cy/cyllid/buddsoddiad-cymdeithasol-cymru/cronfa-gwydnwch-trydydd-sector-cymru/ Mae’r gronfa hon wedi ei chyfyngu i “gyrff corfforaethol” a chanddynt ffurfiau llywodraethiant penodedig, ac sydd a throsiant uwch na’r trothwy Treth ar Werth. Y rheswm am hyn yw fod 25% o’r ariannu ar ffurf benthyciad. Mae hyn felly yn eithrio nifer o grwpiau ffydd (a llawer o fudiadau eraill).
  • Mae CGGC wedi sefydlu gwefan gyda gwybodaeth a ddiweddarir yn rheolaidd am gefnogaeth ariannol sydd ar gael i elusennau yng Nghymru, ac fe anogir eglwysi ac elusennau cysylltiedig ag eglwysi i gyrchu’r wybodaeth hon.

Gethin Rhys
Diweddarwyd 07.07.2020