Papur Briffio Gorffennaf 2020

Ar 20 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer ail-agor addoldai yma: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ailagor-mannau-addoli-coronafeirws
Ar 30 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer ail-agor canolfannau cymunedol, gan gynnwys defnydd cymunedol ar addoldai, yma: https://llyw.cymru/defnyddio-canolfannau-cymunedol-amlbwrpas-yn-ddiogel-covid-19

Ar Orffennaf 10 2020 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae’r rhain yn rheoliadau newydd, yn hytrach nag yn ddiweddariad pellach ar y rheoliadau gyflwynwyd gyntaf ym Mawrth 2020. Daeth y prif ddarpariaethau sy’n effeithio ar eglwysi i rym ar Ddydd Llun Gorffennaf 13. Maent wedi eu diweddaru ers hynny, a gellir gweld y Rheoliadau diweddaraf – yn dangos pob newid – yma: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-08/rheoliadau-diogelu-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-rhif-2-cymru-2020-ar-newidiadau-wediu-harddangos-1.pdf

Mae Cymal 12(3)(b) yn dynodi addoldy fel “mangre agored”, h.y. mae’n gyfreithlon iddo fod ar agor i’r cyhoedd. Mae Cymal 12(2) yn gosod dyletswyddau penodol ar y “person sy’n gyfrifol” am y mangre (yn y gyfraith gall ‘person’ fod yn gorff penodol megis Cwrdd Blaenoriaid neu Ddiaconiaid), at ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, sef:

At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, rhaid i’r person—
(a) cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(i) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr);
(ii) pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, fod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b) cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac sy’n cynnal hylendid megis—
(i) newid trefn y fangre gan gynnwys lleoliad y dodrefn a’r gweithfannau;
(ii) rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii) rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv) fel arall rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;
(v) gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi) darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c) darparu gwybodaeth i’r rhai sy’n dod i mewn neu’n gweithio yn y fangre ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae Cymal 13(1) wedyn yn gosod dyletswydd ar yr un ‘person’ i:
roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

Mae’r dolenni i’r canllawiau hyn ar ben y dudalen hon.

Mae rhai eglwysi yn cynnal canolfannau cymunedol. Ar hyn o bryd, o dan Gymal 10(4) mae angen i’r canolfannau hynny aros ar gau, heblaw i ddarparu:
(a) gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b) gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

Nid oes diffiniad o “wasanaethau gwirfoddol hanfodol” yn y Rheoliadau hyn, ond mewn rheoliadau blaenorol fe gyfeiriwyd yn benodol at fanciau bwyd a gwasanaethau i’r digartref. O dan (b), cyfeiriwyd yn benodol yn y rheoliadau blaenorol at sesiynau rhoi gwaed, ac at wasanaethau gofal plant gyda chaniatâd yr awdurdod lleol.
Ceir dolen i’r cyfarwyddiadau ar gyfer canolfannau cymunedol – sy’n gymwys hefyd i ddefnydd cymunedol ar addoldai – ar ben y dudalen hon. Cynghorir eglwysi, os ydynt yn awyddus i gynnal gweithgareddau i blant a phobl ifainc neu ganiatau defnydd at wasanaethau cyhoeddus eraill dros yr haf, eu bod yn cysylltu â’u hawdurdod lleol i ofyn am arweiniad lleol manwl.

Mae rhai eglwysi yn cynnal bwytai. Wrth ail-agor bwyty, dylid dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd ar Orffennaf 31: https://llyw.cymru/busnesau-twristiaeth-lletygarwch-canllawiau-i-ailagor-yn-raddol

Mae Cymal 14A y Rheoliadau ddaeth i rym ar 3 Awst 2020 yn caniatau i hyd at 30 o bobl ymgynnull yn yr awyr agored at unrhyw berwyl, ar yr amod y cedwir pellter corfforol rhwng pob aelwyd. Gellir cynnal cynulliad o fwy na 30 o bobl er mwyn, ymysg pethau eraill, darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau newydd yn barhaus, a gellir cyrchu’r rhain yn: https://llyw.cymru/topic/980/latest
Bydd Cytûn yn gwneud ei orau i dynnu sylw eglwysi at ganllawiau newydd perthnasol wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Gethin Rhys 03.08.2020