Mae Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yn gwahodd ceisiadau am swydd Ysgrifennydd Cyffredinol a ddaw’n wag toc oherwydd ymadawiad y Prif Weithredwr presennol, Siôn Brynach.

Bydd deiliad y swydd yn

arwain gyda gweledigaeth ar eciwmeniaeth ac ymwneud â’r cyhoedd gan Eglwysi Cymru a bydd yn galluogi ac yn dwyn ymlaen y rhaglen waith a’r blaenoriaethau a osodir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Cytûn i wasanaethu’r Eglwysi.

  • goruchwylio cefnogaeth i’r Cyfamod dros Undod yng Nghymru trwy Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol.
  • rheoli tîm sy’n cyflwyno’r rhaglen waith y cytunwyd arni gan y bwrdd a’r eglwysi sy’n aelodau
  • Gristion sy’n deall ac yn derbyn sylfaen drindodaidd Cytûn
  • gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg

Am fwy o wybodaeth am Cytûn, y rôl, a’r unigolyn yr ydym yn chwilio amdani/o, cysylltwch a cadeirydd@cytun.cymru

Gwnewch gais ar-lein at cadeirydd@cytun.cymru 

A fyddwch cystal â chynnwys y canlynol:

  • CV cynhwysfawr sydd yn cynnwys eich llwyddiannau diweddar a manylion dau ganolwr, gydag un ohonynt yn goruchwylio eich gwaith cyfredol.
  • Llythyr cais o dim mwy na 1000 gair sydd yn cynnwys eich rheswm dros wneud cais a’r priodweddau y byddwch yn eu dwyn i’r rôl.
  • Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 22 Mawrth 2024

Cynhelir cyfweliadau ar 19 Ebrill 2024

Cysylltwch â cadeirydd@cytun.cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau

Mae gwybodaeth bellach isod: