1 |
POBL DDUW’N YMGYNNULL
Galwad i Addoli
Gras ein Harglwydd Iesu Grist
a chariad Duw
a chymdeithas yr Ysbryd Glân
a fyddo gyda ni oll.
Amen.
Yng Nghrist Iesu yr ydym i gyd yn blant Duw trwy ffydd.
Nid oes bellach Iddewon a Groegiaid, caeth a rhydd, gwryw a benyw:
Yr ydym oll yn un yng Nghrist Iesu.
I bob un sydd yng Nghrist:
Y mae creadigaeth newydd.
Gellir canu emyn.
Gweddi wrth Ddynesu a Chyffes
Molwn ac addolwn di, Dduw, y Creawdwr:
trwy dy gariad a’th allu daeth popeth i fod
a pharhau mewn bod.
Molwn ac addolwn di, Iesu Grist, y Gwaredwr:
trwy dy fywyd a’th farwolaeth ar y groes
fe’n cymodir â’r Tad ac â’n gilydd;
trwy dy atgyfodiad oddi wrth y meirw
fe’n genir ni o’r newydd i obaith bywiol.
Molwn ac addolwn di, Ysbryd Glân, Rhoddwr bywyd:
trwy dy dân y ganed ac y bedyddiwyd yr eglwys,
a thrwy ddoniau dy ras yr adeiledir yn gyson gorff Crist.
Gyda’r eglwys oll ar y ddaear ac yn y nefoedd
molwn ac addolwn di,
Dad, Mab ac Ysbryd Glân,
un Duw am byth.
Dywedodd Iesu: “Dewch ataf fi,
bawb sy’n flinedig ac yn llwythog,
ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf,
oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon,
ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau.
Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.”
Cyffeswn ein pechodau:
Gelwir ni yn gorff Crist.
Nid ydym yn deilwng o’i enw.
Cyhoeddodd Iesu’r gwirionedd.
Yr ydym ni’n ei guddio.
Agorodd Iesu’r ffordd at y Tad.
Yr ydym ni’n cau pobl allan.
Gweddïodd Crist am i’w eglwys fod yn un.
Yr ydym ni’n dal yn rhanedig.
Collfarnodd Crist y cyfoethog a bendithio’r tlawd.
Yr ydym ni’n cilio rhag gofynion cyfiawnder.
Carodd Crist ei elynion.
Nid ydym ni’n caru neb ond ein ffrindiau.
Fe’i rhoddodd Crist ei hun dros y byd.
Yr ydym ni’n swatio yn ein heglwysi.
Maddau inni, Arglwydd.
Gwna ni’n unwedd ag Iesu.
Bydded i bopeth a wnawn darddu o’n hundod ynddo ef.
Bydded i’w Ysbryd adnewyddu a thrawsnewid y byd.
Amen.
Dyma air i’w gredu,
sy’n teilyngu derbyniad llwyr:
“Daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid”.
Dywed Iesu: “Maddeuwyd dy bechodau”.
Y mae hefyd yn dweud: “Tyrd, canlyn fi”.
I Dduw y bo’r diolch.
Gellir dweud neu ganu’r Gloria a ganlyn
neu Gloria arall neu ganu emyn addas.
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd i’r rhai sydd wrth ei fodd.
Moliannwn di, bendithiwn di,
addolwn di, gogoneddwn di,
diolchwn i ti am dy fawr ogoniant.
Arglwydd Dduw, Frenin nefol,
Dduw Dad Hollalluog.
O Arglwydd, yr Unig Fab, Iesu Grist;
O Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad,
sy’n dwyn ymaith bechod y byd,
trugarha wrthym;
tydi sy’n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad,
derbyn ein gweddi.
Oherwydd ti yn unig sy’n Sanctaidd;
ti yn unig yw’r Arglwydd;
ti yn unig, O Grist, gyda’r Ysbryd Glân,
sydd Oruchaf yng ngogoniant Duw Dad.
Amen.
Naill ai
Gellir dweud gweddi neu golect 1.
Neu
Dad nefol,
fe’n gelwaist ynghyd yng Nghorff dy Fab Iesu Grist
i barhau ei waith o gymodi
ac i’th ddatguddio di i’r byd:
dyro inni’r dewrder i orchfygu ein hofnau
ac i geisio’r undod hwnnw sy’n rhodd dy ewyllys di:
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw byth bythoedd.
Amen.