2 |
CYHOEDDI’R GAIR
Darlleniad o’r Hen Destament
Gellir dweud neu ganu Salm
Yr Epistol
Yr Efengyl
Gellir gwahodd y bobl i sefyll pan ddarllenir yr Efengyl.
Gall y darllenydd ddweud
Gwrandewch Efengyl Crist yn ôl …
Gogoniant i ti, O Arglwydd.
Ar ôl yr Efengyl gall y darllenydd ddweud
Y mae Duw’n llefaru wrthym mewn llawer modd:
Diolch i Dduw am Iesu, Gair bywiol Duw.
Y Bregeth
Datgan y Ffydd
Gadewch inni ddatgan ein ffydd.
Yr ydym yn credu ac yn ymddiried yn Nuw Dad,
a greodd bopeth sydd.
Yr ydym yn credu ac yn ymddiried yn ei Fab Iesu Grist,
a brynodd y byd.
Yr ydym yn credu ac yn ymddiried yn ei Ysbryd Glân,
sy’n rhoi bywyd i bobl Dduw.
Yr ydym yn credu ac yn ymddiried yn un Duw,
Dad, Mab ac Ysbryd Glân.
Amen.