5  

Y DIOLCH

Gellir cyflwyno offrwm y bobl.

Deuir â bara a gwin i’r bwrdd (neu, os ydynt ar y bwrdd yn barod, eu dadorchuddio).

Arglwydd a Rhoddwr popeth da,

deuwn â bara a gwin iti at ein cymun,

a bywydau a rhoddion at dy deyrnas,

y cyfan i’w trawsffurfio trwy dy ras a’th gariad,

a ddatguddiwyd yn Iesu Grist ein Gwaredwr.

Amen.

Gellir darllen Geiriau’r Sefydlu: 1 Corinthiaid 11. 23-26.

Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara; ac wedi iddo ddiolch, fe’i torrodd, a dweud, “Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf.”

Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar ôl swper, gan ddweud,  “Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf.” Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta’r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw.

Y Weddi Ewcharistaidd

Y mae’r Arglwydd yma.

Y mae ei Ysbryd gyda ni.

Dyrchefwch eich calonnau.

Yr ydym yn eu dyrchafu at yr Arglwydd.

Diolchwn i’r Arglwydd ein Duw.

Iawn yw rhoi ein diolch a’n clod.

Molwn di, Dduw graslon,

am i ti greu pob peth,

am i ti ein llunio ni o bridd y ddaear ar dy ddelw dy hun,

ac am i ti ymddiried dy fyd i’n gofal.

Diolchwn i ti am na throaist ymaith

pan bechodd pobl gyntaf.

Gelwaist Abraham a Sara

i fod yn dad ac yn fam ffydd a phererindod.

Anfonaist Moses i ryddhau’r gorthrymedig

ac i lunio cymuned rydd.

Ysbrydolaist broffwydi i lefaru’r gwirionedd wrth y cedyrn

ac i alw cenhedloedd i edifarhau.

Llenwaist feirdd â chân,

athrawon â doethineb,

a gweledyddion â gweledigaethau o nefoedd newydd a daear newydd.

Ond yn bennaf diolchwn am i ti, yng nghyflawnder yr amser,

anfon dy unig Fab,

Iesu Grist, plentyn Mair,

i rannu dy gariad, i ddysgu ac i iacháu,

i fendithio’r gwylaidd a herio’r grymus,

i ddioddef angau ar y groes,

ac i gyfodi drachefn er ein hiachawdwriaeth.

Hepgorir y paragraff a ganlyn os defnyddir rhagymadrodd priod.2.

[Diolchwn am i Iesu ein cymodi â thi ac â’n gilydd,

iddo faddau inni ein holl feiau,

rhoi i ni fywyd newydd 

a’n gwneud yn eglwys iddo ar y ddaear.]

Felly, gyda chalonnau llawen a diolchgar,

ymunwn â’r angylion, y saint

a phob creadur yn y nefoedd ac ar y ddaear,

i ganu’r emyn gogoneddus o fawl:

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Arglwydd,

Duw gallu a nerth,

nef a daear sy’n llawn o’th ogoniant.

Hosanna yn y goruchaf.

Bendigedig yw’r hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.

Hosanna yn y goruchaf.

Felly, Dad nefol, mewn moliant a diolch,

coffawn yn awr aberth ein Harglwydd Iesu Grist,

cyhoeddwn ei atgyfodiad buddugoliaethus,

dathlwn ein gwaredigaeth trwyddo ef,

a disgwyliwn ei ddyfod mewn gogoniant.

Ar y nos y bradychwyd ef cymerodd fara,

ac wedi diolch i ti,

fe’i torrodd a’i roi i’w ddisgyblion gan ddweud,

“Cymerwch, bwytewch,

hwn yw fy nghorff, a roddir drosoch;

gwnewch hyn i gofio amdanaf.”

Yn yr un modd, ar ôl swper, cymerodd y cwpan gan ddweud,

“Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd yn fy ngwaed i;

yfwch o hwn, bawb ohonoch,

i gofio amdanaf.”

Gadewch inni gyhoeddi dirgelwch y ffydd. 

Bu farw Crist.

Atgyfododd Crist.

Daw Crist mewn gogoniant.

Dad cariadus, 

wrth inni ddathlu ein hundod yng Nghrist

a disgwyl am adnewyddiad y greadigaeth,

offrymwn i ti y bara hwn a’r gwin hwn,

lluniaeth gyffredin yr wyt ti yn ei wneud yn sanctaidd,

yn fara’r bywyd ac yn win iachawdwriaeth.

Deued dy Ysbryd Glân arnom ni ac ar y rhoddion hyn,

fel y porthir ni â chorff a gwaed Crist

ac, wrth inni ein cyflwyno ein hunain,

y cawn adnabod gwir bresenoldeb yr Iesu byw

a’n nerthu i’w ddilyn ef a’th wasanaethu di.

Trwyddo ef, ynddo ef a chydag ef,

yn undod yr Ysbryd Glân,

i ti, Dad hollalluog, y byddo’r gogoniant

byth bythoedd.

Amen.

Fel y dysgodd ein Gwaredwr ni, yr ydym yn gweddïo:

Ein Tad yn y nefoedd,

sancteiddier dy enw,

deled dy deyrnas,

gwneler dy ewyllys,

ar y ddaear fel yn y nef.

Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;

a maddau inni ein troseddau,

fel yr ŷm ni wedi maddau

i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn;

a phaid â’n dwyn i brawf,

ond gwared ni rhag yr Un drwg.

Oherwydd eiddot ti yw’r deyrnas

a’r gallu a’r gogoniant

am byth.

Amen.