YR ANFON ALLAN

7  

Gellir defnyddio’r weddi ôl-gymun a ganlyn, neu weddi arall addas

O Arglwydd Iesu Grist,

mewn diolch, diolch dwfn,

am yr amser hwn, y lle hwn, y bobl hyn, y pryd bwyd hwn,

yr ydym yn ein cyflwyno’n hunain i ti.

Rhoddaist dy fywyd yn ein dwylo;

rhoddwn ninnau yn awr ein bywydau yn dy ddwylo di.

Cymer ni, dryllia ni ac ail-grea ni.

Bendithia ni â newyn am gyfiawnder a syched am heddwch.

Teithia gyda ni ac arwain ni ymlaen

yn gyd-bererinion ar y ffordd i’th deyrnas.

Amen.

Distawrwydd

Bydded i Grist y Bugail da,

a roddodd ei fywyd dros y defaid,

ein dwyn ni a phawb sy’n gwrando ar ei lais

ynghyd i un gorlan.

A bendith Duw Hollalluog,

y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân,

a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad.

Amen.

Gellir canu emyn.

Ewch mewn tangnefedd i garu a gwasanaethu’r Arglwydd.

Yn enw Crist.

Amen.

Distawrwydd

Atodiad

(Tudalen 3)

1    Gweler Y Calendr Newydd a’r Colectau,

     Cyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru, 2003.

(Tudalen 10)

2.   Gweler Trefn ar Gyfer y Cymun Bendigaid,

     Cyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru, 2004, tt.117-131.

Aelodau’r Panel

Y Parchedig Gwynn ap Gwilym……………………………………….. Yr Eglwys yng Nghymru

Y Parchedig John Henson…………………………………… Eglwysi’r Bedyddwyr Cyfamodol

Y Parchedig Delyth Liddell………………………… Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru

Y Parchedig Glyn Tudwal Jones………………………………. Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Y Parchedig Kim Fabricius……………………………………. Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig

Rhian Linecar……………………………………. Swyddog Ffydd, Trefn a Thystiolaeth Cytûn

Cydnabyddiaethau

Lluniwyd y gwasanaeth Cymun Bendigaid (i’w ddefnyddio yn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru) gan Banel Litwrgi Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru.

Cyfeiriodd y Panel at ystod eang o ddeunyddiau, ac y mae’n cydnabod y budd a gafwyd o hynny. Gwaith gwreiddiol y Panel yw rhannau helaeth o’r testun. Ceisiodd Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru hysbysu perchenogion hawlfraint pob gwaith a atgynhyrchwyd a sicrhau eu hawdurdod i’w gynnwys. Os anwybyddwyd unrhyw waith a thorri ei hawlfraint, y mae’r Comisiwn yn ymddiheuro ac, o’i hysbysu o hynny, bydd yn cywiro’r cam wrth ailargraffu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Y Cymun Bendigaid i’w ddefnyddio yn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru

© Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru 2012.

Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i storio mewn system adfer, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig na mecanyddol, na’i lungopïo na’i recordio na dim arall, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru, 58 Heol Richmond, Caerdydd, CF24 3UR, ac eithrio lle y caniateir hynny’n benodol.

Gellir atgynhyrchu testun y gwasanaeth hwn i’w ddefnyddio heb dalu ffi ar yr amod na werthir y copïau, bod enw’r sefydliad ar y clawr neu’r dudalen flaen a bod cynnwys y gydnabyddiaeth a ganlyn:

Y mae deunydd a gynhwysir yn y gwasanaeth hwn yn hawlfraint © Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru 2012.

Testunau allan o’r New Revised Standard Version of the Bible Anglicized Edition, © 1989, 1995, Adran Addysg Gristnogol, Cyngor Eglwysi Crist yn Unol Daleithiau America, defnyddiwyd trwy ganiatâd. Cedwir pob hawl.

Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig    2004 © Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl, defnyddiwyd trwy ganiatâd. Cedwir pob hawl.

Gweddi’r Arglwydd (yn Saesneg) © The English Language Liturgical Consultation (ELLC) 1988.