4 |
Gadewch inni ddathlu’r ŵyl lawen hon.
Dywedodd Iesu, “Daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin,
o’r gogledd ac o’r de,
a chymryd eu lle yn y wledd yn nheyrnas Dduw”.
Y mae Crist, Tywysog tangnefedd,
yn dymchwel y muriau sy’n ein gwahanu.
Bydded tangnefedd yr Arglwydd bob amser gyda chwi.
A hefyd gyda thi.
Gadewch inni roi i’n gilydd arwydd o dangnefedd.
Gellir cyfnewid arwydd o dangnefedd.
Gellir canu emyn, salm neu anthem.