3  

YR YMBILIAU

Defnyddir un o’r ffurfiau a ganlyn.

Ffurf 1

Gall y gweinidog weddïo yn ei eiriau ei hun dros yr eglwys a’r byd.

Ffurf 2

Gellir gofyn i’r bobl weddïo dros:

  • y greadigaeth
  • heddwch a chyfiawnder byd-eang
  • anghenion Cymru
  • anghenion y gymuned leol
  • yr eglwys fyd-eang a lleol
  • pawb sydd mewn angen

a rhoi diolch am fywydau’r ymadawedig.

Dylid cadw distawrwydd ar ôl pob deisyfiad.

Gellir defnyddio ymatebion addas, er enghraifft:

Dduw cariadus:

Iachâ ni a gwna ni’n un.

Ffurf 3

Gellir defnyddio’r gweddïau hyn yn gyflawn neu’n rhannol.

Dduw trugarog,

yn Iesu

fe gerddaist ein strydoedd,

rhannu’n bywydau,

adnabod ein calonnau,

a dioddef dros gariad.

Cyflwynwn i ti ein gweddïau

dros yr eglwys a’r byd.

Dduw cariadus:

Iachâ ni a gwna ni’n un.

Gweddïwn dros yr eglwys yn ei holl amrywiaeth,

ar i’r Ysbryd Glân ein tanio ag angerdd Iesu

i lefaru’n eofn a thyner newyddion da dy ras,

i gysuro’r curedig a’r briwedig o galon,

ac i ryddhau’r blinderog a’r gorthrymedig.

Dduw cariadus:

Iachâ ni a gwna ni’n un.

Gweddïwn dros eglwysi sydd wedi ymrwymo i gydweithio,

dros eglwysi egnïol sy’n tyfu ac yn ffynnu

a thros eglwysi blinedig sy’n llafurio ac yn digalonni.

Gweddïwn dros gynlluniau dychmygus a phartneriaethau mentrus,

dros brosiectau newydd a gweithgareddau hirsefydlog.

A diolchwn fod arwyddion dy deyrnas i’w gweld

ym mhob cymuned Gristnogol ffyddlon a gwasanaethgar.

Dduw cariadus:

Iachâ ni a gwna ni’n un.

Wrth inni geisio ymgorffori dy werthoedd – cyfiawnder, rhyddid a thangnefedd,

dyro inni’r doethineb i ddirnad dy ewyllys a’r gallu i’w wneud.

Mewn byd o gelwyddau, bydded inni ddweud y gwir.

Mewn byd o drachwant, bydded inni roi heb hunanoldeb.

Mewn byd o dywallt gwaed, bydded inni fyw’n ddi-drais.

Mewn byd o ddialedd, bydded inni hyrwyddo cymod.

Dduw cariadus:

Iachâ ni a gwna ni’n un.

Gweddïwn dros y byd a thros Gymru.

Gweddïwn dros y tlawd a’r digartref,

dros bawb a wthir i’r cyrion ac a orthrymir;

dros bawb sy’n fethedig oherwydd afiechyd neu henaint,

a thros bawb a ddirdynnir gan boen meddwl neu anobaith neu ofn.

Gweddïwn dros bawb y mae eu perthynas ag eraill dan straen neu wedi torri,

a thros bawb sy’n unig neu mewn profedigaeth neu’n marw.

Bydded i bob un brofi bywyd yn ei holl gyflawnder;

bydded pob cymuned yn fan lle y bydd pobl yn ffynnu.

Dduw cariadus:

Iachâ ni a gwna ni’n un.

Dduw trugarog,

yn nhawelwch ein calonnau,

cyflwynwn iti ein gweddïau dyfnaf …

Distawrwydd

Sicrha ni o’th bresenoldeb,

a bydded i’th gariad amgylchynu a chryfhau

pawb y buom yn gweddïo drostynt.

Dduw cariadus:

Iachâ ni a gwna ni’n un.

Cyflwynwn y gweddïau hyn

yn enw Crist.

Amen.

Ar ddiwedd yr Ymbiliau, gall y Gweinidog sy’n Llywyddu ddweud:

Nid bwrdd yr eglwys yw hwn ond bwrdd yr Arglwydd.

Arglwydd, deuwn at dy fwrdd,

gan ymddiried yn dy drugaredd

ac nid yn ein daioni ein hunain.

Nid ydym ni’n deilwng

gymaint ag i gasglu’r briwsion dan dy fwrdd di,

ond dy natur di yw bod bob amser yn drugarog,

ac yr ydym yn dibynnu ar hynny.

Portha ni felly â chorff a gwaed

Iesu Grist, dy Fab,

fel y cawn fyw am byth ynddo ef

ac yntau ynom ninnau.

Amen.

Y TANGNEFEDD