6 |
RHANNU’R BARA A’R GWIN
Y mae’r Gweinidog sy’n Llywyddu yn torri’r bara.
Y bara yr ydym yn ei dorri,
cymun corff Crist ydyw.
Yr ydym ni sy’n llawer yn un corff,
oherwydd yr ydym i gyd yn rhannu’r un bara.
Y mae’r Gweinidog sy’n Llywyddu yn codi’r cwpan.
Cwpan y fendith yr ydym yn ei fendithio,
cymun yng ngwaed Crist ydyw.
Rhoddion sanctaidd Duw i holl bobl Dduw.
Iesu Grist sy’n sanctaidd,
Iesu Grist yw’r Arglwydd,
er gogoniant Duw Dad.
Y mae’r Gweinidog sy’n Llywyddu, y gweinidogion a’r bobl yn derbyn y cymun.
Gweinyddir y sacrament â’r geiriau hyn
Corff Crist, bara’r bywyd. Amen.
Gwaed Crist, y wir winwydden. Amen.
Gellir bendithio’r rhai hynny nad ydynt am gymuno.
Cedwir distawrwydd.
Gellir canu emyn.
Bwyteir ac yfir gyda pharch unrhyw fara a gwin cysegredig nad oes mo’u hangen at y cymun.