Cynnal y cyfarfod etholiadol ar-lein

Mae’n bwysig gwneud rhai penderfyniadau cychwynnol yn gynnar ynghylch y fformat a’r platfform ar gyfer cynnal y digwyddiad. Mae’r dewis o blatfformau ar-lein posibl yn cynnwys: Zoom Meetings, Google Meet, GoToMeeting, a Microsoft Teams ymhlith eraill. Bydd yr adran hon yn amlinellu tri fformat posibl, ond mae’n werth ystyried dichonoldeb pob awgrym ar gyfer eich cyd-destun, gan ei bod yn bosibl mai cyfuniad o fformatau (neu fformat cwbl wahanol) fyddai’n gweddu orau yn eich sefyllfa chi.

Dewis 1 – Cyfarfod byw, ar-lein yn unig

Mae’n debyg mai’r dewis symlaf, a’r un sy’n debygol o fod fwyaf cyfarwydd i gymunedau eglwysig, yw cynnal cyfarfod byw ar‑lein yn unig. Gellir cynnal y cyfarfod yn yr un modd â chyfarfod cyhoeddus arferol gydag ymgeiswyr etholiadol, gyda’r Cadeirydd yn gweithredu fel ‘gwesteiwr’ a’r ymgeiswyr yn aros yng nghanol sgrin y gynulleidfa, fel panel. Gall y gynulleidfa gyflwyno cwestiynau drwy’r cyfleuster sgwrsio testun, cyfleuster C&A, Sli.do, neu, os yw’r Cadeirydd yn gyfforddus â hynny, drwy gyfraniadau llafar.

Bydd gan y gwesteiwr technegol reolaeth dros dawelu cyfranwyr, a dylai fod yn barod i wneud hynny os oes angen.