Ffurfio grŵp cydlynu

Mae’r cyfarfodydd hyn yn gweithio orau pan gânt eu trefnu’n eciwmenaidd, felly’r peth cyntaf i’w wneud yw ffurfio grŵp cynllunio eciwmenaidd lleol. Gallai hynny fod drwy eich grŵp Cytûn neu Eglwysi Ynghyd lleol, ond os nad yw hynny’n bosibl mae’n well sefydlu grŵp trefnu arbennig sy’n cynnwys cynrychiolwyr o blith gwahanol eglwysi yn hytrach na gweithredu fel eglwys neu enwad unigol. Cysylltwch â chymaint ag y gallwch o eglwysi o fewn eich etholaeth i weld os gallwch weithio ar y cyd. Ystyriwch a ydych hefyd am wahodd aelodau cymunedau crefyddol eraill neu gyrff dinesig i fod yn rhan o’r broses. Galwch gyfarfod o’r grŵp hwn cyn gynted ag y bo modd.

Gall ffurfio grŵp cydlynu bach o bobl a fydd yn gallu gwneud penderfyniadau a gweithredu ysgafnhau’r baich a sicrhau bod yr holl dasgau y mae angen iddynt ddigwydd yn cael eu cyflawni’n ddidrafferth. Yn 2021 bydd y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol ar-lein, ac felly dylech sicrhau bod eich  grŵp  cydlynu  yn cynnwys pobl sy’n hyderus yn trefnu ac yn cynnal digwyddiadau ar-lein.

Efallai y bydd gennych grŵp eisoes o etholiad blaenorol a allai gydweithio eto i addasu eich model blaenorol. Os ydych yn rhoi cynnig ar rywbeth am y tro cyntaf mae’n werth ystyried a oes eglwysi, grwpiau ffydd neu grwpiau cymunedol eisoes mewn bodolaeth y gallwch ofyn iddynt  a gewch weithio mewn partneriaeth â nhw?

Drwy symud ar-lein mae cyfle newydd i gydweithio ag eglwysi eraill ledled eich ardal i drefnu un cyfarfod cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol y gallai pawb ymuno ynddo, neu rannu eich digwyddiad gydag eglwysi nad ydynt wedi cynnal cyfarfod etholiadol o’r fath o’r blaen.