Penodi Cadeirydd

Er mwyn sicrhau bod amrywiaeth barn a safbwyntiau amrywiol yn cael eu clywed yn ystod y drafodaeth dylech feddwl am rywun diduedd o’ch cymuned ac sy’n ennyn parch a fyddai’n fodlon cadeirio’r cyfarfod.

Gallai fod yn rhywun amlwg yn y byd eglwysig, yn arweinydd yn y gymuned neu’n rhywun arall sy’n gyfarwydd â siarad yn gyhoeddus a chadw trefn.

Ni ddylai fod yn aelod o blaid wleidyddol na bod yn adnabyddus am gefnogi unrhyw blaid benodol.

Mae hefyd yn bwysig bod y sawl a benodir yn gallu rheoli’r cyfarfod yn gadarn ac yn deall yn union mae’r digwyddiad i’w gynnal.

Gallech ystyried cynnal ymarfer technegol cyn y digwyddiad ei hun. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer unrhyw frychau neu ystyriaethau technegol gael eu hystyried cyn y cyfarfod byw.

Byddai cymorth rhywun sydd â phrofiad o gynnal cyfarfodydd ar-lein, neu sydd yn gyfarwydd â’r platfform y cynhelir y cyfarfod arno, yn ddefnyddiol.