Pennu dyddiad

Gall eich digwyddiad gael ei gynnal unrhyw bryd rhwng nawr a diwrnod yr etholiad.

Yn y pen draw, bydd y dyddiad yn dibynnu ar nifer o ffactorau  gan  gynnwys argaeledd ymgeiswyr. Mae bob amser yn werth cysylltu â’r ymgeiswyr cyn gynted â phosibl i ddechrau trafod dyddiadau.

Nodwch, oherwydd yr angen posibl i ystyried a monitro deddfwriaeth frys ynghylch COVID-19, mai dim ond saith diwrnod cyn diwrnod yr etholiad y caiff y Senedd ei diddymu (sef ar 29 Ebrill). Mae hynny’n golygu y bydd ymgeiswyr sy’n Aelodau o’r Senedd ar hyn o bryd yn gorfod cyfuno ymgyrchu â’u cyfrifoldebau seneddol (er y dylai’r rheini ymwneud ond â materion yn gysylltiedig â COVID-19; dylai pob gweithgaredd seneddol arferol arall ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth).

Mae deddfwriaeth wedi’i phasio i alluogi gohirio’r etholiadau hyn am hyd at chwe mis os yw’r sefyllfa gyda’r pandemig yn gofyn hynny. Fodd bynnag, rydym yn argymell nad ydych yn oedi cyn trefnu eich cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol. Mae’n well gorfod gohirio nag aros i weld ac yna canfod nad oes gennych ddigon o amser i drefnu’n iawn.

Mae disgwyl i fwy o bobl nag erioed wneud cais am bleidleisiau drwy’r post eleni, er mwyn osgoi pleidleisio’n bersonol. Fel arfer, anfonir pleidleisiau drwy’r post at bleidleiswyr sydd wedi gwneud cais amdanynt tua phythefnos cyn dyddiad yr etholiad. Mae llawer o bobl yn cwblhau eu pleidlais drwy’r post cyn gynted ag y bydd yn cyrraedd.

Am y rhesymau hyn, rydym yn argymell eich bod yn anelu at gynnal eich digwyddiad yn yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 19 Ebrill, neu’n gynharach.

Mae profiad mewn blynyddoedd blaenorol yn dangos bod ymgeiswyr yn aml yn ymateb yn gadarnhaol i wahoddiadau i gyfarfodydd wyneb yn wyneb a gynhelir ar nosweithiau Sul, er y bydd y posibiliadau ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn gyfyngedig eleni.