Dewis CH – ‘Cyfres o Gyfweliadau’

Yn hytrach na cheisio trefnu digwyddiad cyhoeddus, byddai’r syniad hwn yn golygu bod holwr, yn dilyn briffio trwyadl, yn cyfweld pob un o’r ymgeiswyr yn eu tro, gan ofyn yr un cwestiynau neu gwestiynau tebyg i bawb, a chaniatáu’r un faint o amser i bob ymgeisydd (dyweder tua 15 munud). Byddai’r cyfweliadau’n cael eu ffilmio ar adegau cyfleus i’r ymgeiswyr unigol. Unwaith y byddant wedi’u recordio dylid eu golygu’n un fideo a’u lanlwytho. Wrth baratoi’r fideo llawn, dylid sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn cael eu cyflwyno mewn ffordd deg, eu bod i oll wedi cael y cyfle i ateb yr un cwestiynau a bod gan bawb yr un faint o amser fideo i siarad.

Byddai angen i’r holwr fod yn barod i feddwl yn ofalus am y cwestiynau a byddai angen sicrhau dangos pob ymgeisydd mewn golau teg a chywir, ac nad oes neb yn cael mwy neu lai o gyhoeddusrwydd nag eraill. Byddai angen i’r grŵp cydlynu hefyd weithio’n egnïol i sicrhau bod cyhoeddusrwydd eang ar gyfer y fideo.