Dewis C – Cyfarfod etholiadol ‘Gwleidyddiaeth y Bobl’

Er bod cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol traddodiadol yn rhoi’r pwyslais ar glywed gan wleidyddion a phleidiau, mae digwyddiad ‘Gwleidyddiaeth y Bobl’ yn dechrau drwy glywed gan y rhai nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml yn y drafodaeth wleidyddol cyn gofyn i ymgeiswyr ymateb.

Dyma fyddai trefn y digwyddiad:

  • Nodwch unigolion neu gynrychiolwyr o grwpiau sy’n aml yn cael eu gwthio i’r cyrion o fewn cymdeithas: gallai hynny gynnwys rhywun o  loches i’r digartref neu ddefnyddwyr banc bwyd, grwpiau o bobl ag anableddau dysgu, gofalwyr ifanc, ceiswyr lloches neu unrhyw grwpiau eraill a allai fod yn berthnasol i’ch cyd-destun lleol ac i’r etholiad sy’n cael ei gynnal ac sy’n barod i rannu eu straeon (mae hyd at dri o bobl yn ddelfrydol).
  • Yn y digwyddiad, mae’r Cadeirydd yn egluro’r drefn ac yn cyflwyno’r ymgeiswyr a’r rhai sydd wedi cael eu gwahodd i rannu eu straeon.
  • Mae’r unigolyn cyntaf yn rhannu ei stori tair munud ac yna’n gofyn cwestiwn yr hoffai i’r ymgeiswyr ei ateb.
  • Mae’r holl ymgeiswyr yn ymateb yn eu tro i’r hyn y maent wedi’i glywed ac yn ceisio ateb y cwestiwn. Dylai hon fod yn sgwrs dair ffordd rhwng y Cadeirydd, y sawl sy’n rhannu ei stori a’r ymgeisydd. Nid deialog rhwng yr ymgeiswyr mohono.
  • Unwaith y bydd yr holl ymgeiswyr wedi gwneud hyn, bydd y Cadeirydd yn diolch iddynt ac yn diolch i’r sawl sydd wedi rhannu ei stori, cyn gwahodd yr unigolyn nesaf i rannu ei stori.
  • Ar ôl clywed yr holl straeon ac ymatebion yr holl ymgeiswyr, gall y Cadeirydd wahodd yr holl siaradwyr i flaen y llwyfan a derbyn cwestiynau gan y gynulleidfa (os bydd amser yn caniatáu).

Mae llwyddiant digwyddiad o’r math hwn yn dibynnu i raddau helaeth ar ei gwneud yn rhwyddach i bobl rannu eu straeon. I rai o’r unigolion hynny, gall hon fod yn broses fygythiol: yn ddelfrydol dylech dreulio amser gyda hwy ymlaen llaw gan sicrhau eu bod yn gyfforddus gyda’r fformat a’r hyn a ddisgwylir ganddynt. Efallai y bydd rhai am i’w stori gael ei hysgrifennu. I eraill, gall siarad am dair munud fod yn anodd ac mewn achos felly efallai y byddai’n syniad da dilyn dull cyfweld rhwng y Cadeirydd a’r storïwr.

Gall gwybod pa gwestiwn i’w ofyn i’r ymgeiswyr fod yn anodd hefyd i’r rhai sy’n rhannu eu straeon. Os felly, efallai y bydd angen i chi eu cynorthwyo i feddwl am y cwestiwn ymlaen llaw. Nid oes angen i’r cwestiwn fod yn gymhleth ac yn aml gall cwestiynau syml fel ‘Os cewch eich ethol, beth fyddech chi’n ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn?’ fod yn bwerus iawn.

Rhan bwysig arall o’r broses yw hwyluso’r drafodaeth rhwng yr ymgeiswyr a’r storïwr. Wrth wneud hynny, mae’n bwysig bod y Cadeirydd yn sicrhau bod y ddau unigolyn yn cael cyfle teg i gyfrannu a’u bod yn gwneud hynny mewn ffordd bwyllog ac adeiladol. Dylid esbonio hynny i’r cyfranogwyr cyn y digwyddiad.