Rhestr wirio a chysylltiadau
- Ffurfiwch grŵp cynllunio
- Penderfynwch pa etholiad(au) y byddwch yn eu cynnwys
- Darganfyddwch pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi
- Penderfynwch ar fformat / platfform
- Trefnwch ddyddiad, amser a lleoliad
- Gwahoddwch ymgeiswyr ac ailgysylltwch os na fydd ymateb
- Penodwch a) eich Cadeirydd a b) eich cydlynydd cyfarfod ar-lein
- Rhowch gyhoeddusrwydd i’r digwyddiad (tudalen gofrestru, dolen gwahodd ac ati) a gwahoddwch gwestiynau
- Cynhaliwch ymarfer a gwirio’r dechnoleg
Paratowyd y canllawiau hyn gan Swyddfa Seneddol Eglwysi’r Alban, Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru a’r Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd (Joint Public Issues Team).
Byddem wrth ein bodd cael gwybod sut y penderfynoch gynnal eich digwyddiad, pwy a fynychodd, pa gwestiynau a ofynnwyd ac yn enwedig os oeddech wedi rhoi cynnig ar fath newydd o fformat ar gyfer ymgysylltu.
Anfonwch luniau atom hefyd (gyda chaniatâd y bobl berthnasol).
Rydym hefyd am wybod a fu’r canllawiau hyn yn ddefnyddiol, a beth ddylid ei ychwanegu neu ei newid ar gyfer y dyfodol.
Os oes gennych gwestiynau, awgrymiadau neu sylwadau, ysgrifennwch, os gwelwch yn dda, at Gethin Rhys gethin@cytun.cymru
Diweddarwyd Chwefror 2021 gan Meg Read a Rodney Coker