Y rheolau ynghylch cynnal cyfarfod Cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol

Mae eglwysi’n elusennau ac felly maent yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr.

Yn ystod cyfnodau etholiad, mae gweithgareddau ymgyrchu hefyd yn ddarostyngedig i reoliadau’r Comisiwn Etholiadol. Mae cynnal cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol yn weithgaredd cyfreithlon i eglwysi yn ystod y cyfnodau hynny.

Mae’r un ystyriaethau’n berthnasol i gyfarfodydd etholiadol ar gyfer etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ag ar gyfer etholiadau’r Senedd. Mae rhanbarthau’r Comisiynwyr yn fawr yn ddaearyddol, felly mae’n arbennig o bwysig eich bod yn gweithio ymlaen llaw gydag eglwysi, grwpiau ffydd neu sefydliadau eraill a allai fod yn bwriadu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol. Os ydych yn bwriadu cynnal cyfarfodydd o’r fath ar gyfer sawl etholiad, dylech eu cynnal ar wahân.

Mae canllawiau’r Comisiwn Etholiadol ar gynnal cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol i’w gweld yn https://www.electoralcommission.org.uk/cy/ydych-chin-cynnal-hustyngau.

Cyfraith elusennau – Cymru a Lloegr: https://www.gov.uk/government/publications/speaking-out-guidance-on-campaigning-and-political-activity-by-charities-cc9