Beth os nad yw ymgeisydd yn ymateb i wahoddiad, yn gwrthod y gwahoddiad, yn boicotio’r cyfarfod neu ddim yn ymddangos yn y digwyddiad?

I drefnwyr, gall hyn fod yn dipyn o boen, ond os byddwch wedi penderfynu sut y byddwch yn ymdrin â’r sefyllfa cyn iddi godi, byddwch yn fwy parod. Yn y lle cyntaf, ceisiwch ddod o hyd i ddyddiad sy’n gyfleus ar gyfer yr holl ymgeiswyr a wahoddir  – a cheisiwch fod yn hyblyg os bydd anawsterau’n codi!

  • Diffyg ymateb – Os na fyddwch yn derbyn ymateb i’r gwahoddiad, mae angen i chi geisio eto. Daliwch ati a cheisiwch gael cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ar gyfer yr ymgeisydd a’r asiant etholiadol fel y gallwch gadw mewn cysylltiad.
  • Gwrthod y gwahoddiad – os yw ymgeisydd wedi gwrthod bod yn bresennol (oherwydd ymrwymiad arall, er enghraifft) nid oes rhaid i chi boeni ynghylch natur ddiduedd eich digwyddiad, gan mai’r gwahoddiad sy’n cyfrif. Os yw’r un sy’n gwrthod yn ymgeisydd un o’r prif bleidiau cenedlaethol, meddyliwch a fyddech yn fodlon bod llefarydd arall ar ran y blaid yn cymryd rhan. Yn achos cyfarfod gydag ymgeiswyr etholaethol ar gyfer y Senedd, byddai’n rhesymol caniatáu i’r blaid dan sylw enwebu un o’i hymgeiswyr rhestr ranbarthol fel dirprwy. Efallai byddai’n dda wneud datganiad ar ddechrau’r digwyddiad, gan esbonio pam nad yw’r ymgeisydd yn gallu bod yno. Mae’n arfer da gwahodd ymgeiswyr na allant fod yn bresennol i gyflwyno datganiad ysgrifenedig byr (o’r un hyd â datganiadau agoriadol y pleidiau sy’n bresennol) i’w ddarllen gan y Cadeirydd ar ddechrau’r cyfarfod.
  • Boicotio – mae gan rai pleidiau bolisi o beidio â rhannu llwyfan gyda phleidiau penodol eraill, gan y teimlir bod hynny’n cyfleu rhywfaint o ddilysrwydd iddynt. Os canfyddwch, oherwydd y bydd ymgeisydd plaid A yn bresennol, na fydd ymgeiswyr o bleidiau B ac C yn cymryd rhan yn y cyfarfod, beth ddylai eich grŵp cynllunio ei wneud? Byddwch yn barod i ystyried cynnal digwyddiad gwahanol neu beidio â chynnal digwyddiad os na fydd o fudd i’r gymuned.
  • Ymgeisydd ddim yn ymddangos – yn amlwg byddai hyn yn siomedig i’r grŵp cynllunio a’r gynulleidfa, ond hefyd i ymgeisydd sydd wedi anghofio! Gall etholiadau fod yn gyfnodau hynod brysur, felly sicrhewch fod llai o siawns cael eich siomi drwy gadw mewn cysylltiad ag ymgeiswyr, rhannu rhifau ffôn a chadarnhau’r holl drefniadau ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad.