Dewis 3 – Rhannu clipiau fideo a gafodd eu recordio’n flaenorol

Byddai’r dewis hwn yn golygu bod y trefnwyr naill ai’n cynnal cyfres o gyfweliadau ar wahân, neu’n anfon yr un cwestiynau at yr holl ymgeiswyr ac yn gofyn iddynt recordio eu hymatebion ar fideo ac yna gall yr eglwys eu postio ar-lein. Efallai y bydd un o’r arweinwyr eglwysig yn hoffi ychwanegu sylw yn ymwneud â ffydd, y cyd-destun democrataidd a’r cyd-destun penodol.

Gall hyn fod yn ddewis os oes nifer fawr o ymgeiswyr, neu mewn ardaloedd sydd â chysylltiad rhyngrwyd annibynadwy a allai wneud cynnal cyfarfod byw ar-lein yn anodd.