Dewis y math o gyfarfod
Mae nifer o ffurfiau posibl ar gyfer eich cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol. Dyma amlinellu pedwar dewis:
Dewis A – Cyfarfod etholiadol traddodiadol
Mae’r cyfarfodydd hyn ar ffurf ‘hawl i holi’, lle gwahoddir ymgeiswyr i ymateb i gwestiynau gan y gynulleidfa.
Efallai y byddwch am ystyried y strwythur canlynol:
- Cyflwyno’r ymgeiswyr yn fyr wrth eu henwau a’u pleidiau
- Datganiad byr gan bob ymgeisydd (rhyw ddwy funud yr un ar y mwyaf)
- Cwestiynau gan y gynulleidfa ar faterion sy’n berthnasol i’r etholiad a gynhelir, gan roi cyfle i bob ymgeisydd ymateb
- Ychydig o frawddegau i gloi gan bob ymgeisydd
O gofio y gall fod gennych chwech neu fwy o ymgeiswyr, bydd angen i chi sicrhau bod datganiadau ac atebion yn cadw at amserlen gaeth. Mae’n debyg y byddwch am fod â rhywun sydd ag amserydd ac a all hysbysu’r siaradwr bod yr amser bron ar ben (er enghraifft, 30 eiliad i fynd) ac eto pan fydd yr amser ar ben. Mae rhaglenni cynnal digwyddiadau ar-lein yn caniatáu i ‘westeiwr’ y cyfarfod ddiffodd microffonau siaradwyr.
Mae hi bob amser yn syniad da trefnu ymlaen llaw i rywun ofyn y cwestiwn cyntaf – efallai y bydd pobl yn araf i siarad ar y dechrau, ond byddant yn deffro cyn bo hir. Cynhelir y cyfarfodydd hyn gan – ond nid ar gyfer – yr eglwysi. Dylid annog pobl o bob rhan o’r gymuned i fod yn bresennol ac i gymryd rhan.
Penderfynwch sut rydych am ymdrin â chwestiynau – a ddylid cyflwyno cwestiynau ymlaen llaw i sicrhau bod ystod o bynciau’n cael sylw, neu a ydych yn fodlon derbyn cwestiynau gan y gynulleidfa ar y pryd? Os felly, dylech egluro’r rheolau os bydd rhywun am ofyn cwestiwn ac esbonio sut mae gwneud hynny mewn cyfarfod ar-lein. Os yw’ch cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein, gallwch ofyn i bobl gyflwyno cwestiynau i’r cadeirydd neu rywun arall a benodwyd eu darllen trwy wasanaeth megis Sli.do, neu os oes gennych danysgrifiad Gweminar Zoom, mae yna gyfleuster C&A yn rhan ohono.
Beth bynnag a benderfynwch, dylid egluro’r drefn i’r gynulleidfa ar ddechrau’r cyfarfod. Penderfynwch hefyd a fyddwch yn caniatáu gofyn cwestiynau atodol ai peidio: cofiwch, hyd yn oed os rhoddir dim ond dwy funud i bob un o’r chwe ymgeisydd ateb, y bydd pob cwestiwn yn cymryd deuddeg munud. Gallai’r Cadeirydd neu’r holwr gymryd sawl cwestiwn ar y tro. Efallai bydd angen i’r Cadeirydd ffrwyno’r rhai sy’n holi hefyd – mae pobl wedi dod i glywed yr ymgeiswyr, nid y gynulleidfa!