Rhoi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad

Ceisiwch sicrhau bod cyhoeddusrwydd ar gyfer y cyfarfod i yn cyrraedd cymaint o bobl ac mewn cymaint o ffyrdd â phosibl – ac ar y cyfle cyntaf.

Bydd angen i chi benderfynu ar lefel diogelwch eich cyfarfod etholiadol yn dibynnu ar y platfform rydych chi’n dewis ei ddefnyddio. Gallwch ddewis hysbysebu drwy Eventbrite neu ofyn i bobl gofrestru ar gyfer dolen a fydd yn rhoi manylion yn nes at y dyddiad.

Cysylltwch â’r holl eglwysi yn yr ardal leol, gan ofyn iddynt hysbysu eu cynulleidfaoedd am y cyfarfod etholiadol drwy eu cylchlythyrau, eu cyfryngau cymdeithasol neu eu gwasanaethau.

Os yw’n bosibl, gofynnwch i un aelod ym mhob cynulleidfa gymryd cyfrifoldeb am roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod o fewn ei (h)eglwys ei hun.

Er ei bod yn werth canolbwyntio ar flaenoriaethu hysbysebu ar-lein, efallai yr hoffech ystyried sut y bydd pobl yn y gymuned sy’n llai hyddysg mewn cyfrifiadura’n cael gwybod am y cyfarfod a sut y gellir eu cynorthwyo i gymryd rhan.

Mae rhai platfformau’n eich galluogi i glywed sain cyfarfod drwy alw i mewn ar y ffôn. Efallai y byddwch hefyd am benodi rhywun i sicrhau bod y digwyddiad mor hygyrch â phosibl.

Gallech hefyd ofyn i’r cyfryngau lleol hysbysebu’r digwyddiad. Gellir anfon dogfen syml (yn nodi Beth, Pryd, Ble, Pwy a Pham) i bapurau newydd a gorsafoedd radio lleol, ond peidiwch ag anghofio hysbysu’r  ymgeiswyr yn gyntaf.

Os byddwch yn dewis recordio’r digwyddiad (gan sicrhau caniatâd yr ymgeiswyr a’r gynulleidfa gyntaf ar gyfer unrhyw recordio), gallech hefyd bostio’r fideo ar-lein a rhoi gwybod i bobl amdano.