Gwahodd ymgeiswyr

Fe fydd nifer o etholiadau’n digwydd ar yr un diwrnod yn eich ardal, felly bydd angen i chi benderfynu ar gyfer pa un neu ba rai y byddwch yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol ar eu cyfer. Os nad ydych yn siŵr pa etholiadau sy’n digwydd yn eich ardal, edrychwch yma –  Etholiadau ar ddod | Y Comisiwn Etholiadol. 

Y dyddiad cau ar gyfer enwebu ymgeiswyr ar gyfer yr holl etholiadau yw dydd Iau 8 Ebrill. Ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd y swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholiad(au) perthnasol yn cyhoeddi rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob etholiad.

Byddwch wedyn yn gallu cysylltu â’r ymgeiswyr drwy’r pleidiau gwleidyddol yn lleol neu’n genedlaethol, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy wefannau’r ymgeiswyr.

Os ydych am gysylltu cyn yr adeg honno, gallwch ddefnyddio www.democraticdashboard.com i ddarganfod pwy sy’n sefyll yn eich ardal.

Dylech hefyd ofyn am rifau ffôn symudol ac enw a manylion asiant etholiadol yr ymgeisydd fel y gallwch gadw mewn cysylltiad yn y cyfnod cyn y digwyddiad.

Mewn etholiadau i’r Senedd, cynrychiolir pleidleiswyr gan Aelod Etholaeth, a etholir drwy system y cyntaf i’r felin, yn ogystal â nifer o Aelodau Rhanbarthol, sy’n cael eu hethol drwy drefn cynrychiolaeth gyfrannol.

Efallai na fydd rhai pleidiau llai yn dewis ymgeiswyr etholaethol, ond yn hytrach ond yn sefyll ar gyfer seddi rhanbarthol.

Os ydych yn trefnu cyfarfodydd etholiadol ar gyfer etholiad y Senedd, dylech benderfynu a ydych am wahodd yr ymgeiswyr etholaethol lleol yn unig, ynteu wahodd cynrychiolwyr o’r holl bleidiau sy’n sefyll yn yr etholaeth a’r rhanbarth – ceisiwch feddwl beth sy’n debygol o fod fwyaf defnyddiol i’r gymuned a’r hyn a fyddai’n hybu trafodaeth gyhoeddus deg orau.

A oes rhaid i ni wahodd yr holl ymgeiswyr?

Nac oes – ond os nad ydych, rhaid i chi fod â rheswm gwrthrychol, diduedd dros beidio â chynnwys pob un ohonynt.

Y peth symlaf i’w wneud yw gwahodd yr holl ymgeiswyr perthnasol yn yr ardal neu’r holl bleidiau gwleidyddol sy’n ymgyrchu yn yr etholiad a chaniatáu i bawb sy’n bresennol gyfle cyfartal i gyfranogi.

Fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn ymarferol. Er enghraifft, efallai y bydd cynifer o ymgeiswyr neu bleidiau’n sefyll y byddai’n anodd rheoli cyfarfod – mae hyn yn arbennig o wir am y rhestrau rhanbarthol yn y Senedd lle gallai etholiad fod ar gyfer nifer o seddi. Os byddwch yn penderfynu peidio â gwahodd pob ymgeisydd, mae rhai argymhellion arfer da y dylech eu dilyn i wneud yn sicr nad yw eich cyfarfod etholiadol yn hyrwyddo rhai ymgeiswyr neu bleidiau yn fwy nag eraill.

Ymhlith rheini mae:

  • Gallu rhoi rhesymau diduedd pam nad ydych wedi gwahodd ymgeiswyr neu bleidiau  penodol. Dylech fod yn barod i egluro eich rhesymau i ymgeiswyr neu bleidiau nad ydych wedi’u gwahodd. Os nad ydych am wahodd ymgeisydd am nad ydych yn cytuno â pholisïau’r ymgeisydd, nid yw hynny’n rheswm diduedd. Nid yw’n rheswm diduedd ychwaith eich bod yn gwahodd neu ddim yn gwahodd ymgeisydd oherwydd ymlyniad crefyddol gwirioneddol neu dybiedig. Er y gall hynny weithiau fod yn ddilys o dan gyfraith elusennau, mae iddo ganlyniadau i ymgeiswyr o dan gyfraith etholiadol, gan y gall gwariant ar gyfarfodydd o’r fath gyfrif fel gwariant etholiadol. Yn y sefyllfa honno, mae angen rhannu’r swm a wariwyd â nifer yr ymgeiswyr ac os yw dros £50 yr un yna mae angen hysbysu’r ymgeiswyr y dylid ei gynnwys yn eu datganiadau i’r Comisiwn Etholiadol. Dylech ymgynghori â chanllawiau’r Comisiwn ynghylch trefnu Hustyngau Detholus (gweler https://www.electoralcommission.org.uk/are-you-holding-a-hustings/selective-hustings) gan y bydd hynny’n ddarostyngedig i reoliadau. Efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda’r Comisiwn a sicrhau bod yr ymgeiswyr yr ydych yn eu gwahodd yn datgan eich cefnogaeth iddynt. Am y rhesymau hyn, argymhellir eich bod yn gwahodd pob ymgeisydd, oni bai bod rheswm diduedd dros wneud hynny.      
    Gall rhesymau diduedd gynnwys:
  • Amlygrwydd lleol rhai pleidiau neu ymgeiswyr uwchlaw eraill.
  • Nifer cynrychiolwyr etholedig y blaid dan sylw ar y lefel leol neu genedlaethol.
  • Canlyniadau etholiad(au) diweddar yn yr ardal.
  • Adnoddau ac agweddau ymarferol eraill sy’n cyfyngu ar y nifer o ymgeiswyr y gellir eu gwahodd.
  • Pryderon diogelwch.
  • Sicrhau bod ymgeiswyr neu bleidiau a wahoddwch yn cynrychioli amrywiaeth rhesymol o safbwyntiau, o wahanol rannau o’r sbectrwm gwleidyddol – ar gyfer y rhestrau rhanbarthol yn y Senedd, dylid gwahodd pob plaid i ddewis un ymgeisydd, er bod nifer o ymgeiswyr o’r blaid yn sefyll yn yr etholiad.
  • Caniatáu i bob ymgeisydd neu gynrychiolydd plaid sy’n bresennol gyfle teg i ateb cwestiynau a, lle bo’n briodol, gyfle rhesymol i ymateb i bwyntiau a wnaed yn ei (h)erbyn gan ymgeiswyr neu gynrychiolwyr pleidiau eraill.
  • Hysbysu’r gynulleidfa yn y cyfarfod am ymgeiswyr neu bleidiau sy’n sefyll nad ydynt wedi cael eu gwahodd. Mae’n arfer da gwahodd yr ymgeiswyr hynny i gyflwyno datganiad ysgrifenedig byr (o’r un hyd â datganiadau agoriadol y pleidiau sy’n bresennol) i’w ddarllen gan y Cadeirydd ar ddechrau’r cyfarfod.