Dewis B – Cyfarfod etholiadol ar garlam
Yn seiliedig ar fformat ‘speed dating’, mae’r math hwn o gyfarfod cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol yn galluogi cynnal deialog rhwng yr ymgeiswyr a’r gynulleidfa. Dyma’r drefn:
Dosberthir y gynulleidfa i ystafelloedd ymneilltuo ar-lein (fel sydd ar gael yn Zoom), gydag ymgeisydd a hwylusydd ym mhob ystafell. Gall ymgeiswyr wneud datganiad agoriadol byr, ac yna ymateb i gwestiynau gan y grŵp, cyn symud ymlaen i’r grŵp nesaf ar ôl cyfnod penodol o amser.
Ar ôl siarad â’r bobl yn yr holl ystafelloedd ymneilltuo, gwahoddir yr ymgeiswyr i grynhoi mewn datganiad byr gerbron y gynulleidfa gyfan ar ddiwedd y noson.
Un odrwydd o hyn yw and yw’r ymgeiswyr yn cael clywed beth mae’r ymgeiswyr eraill yn ei ddweud, gan olygu y gall rhai ymatebion fod yn ail-adroddus.