Diweddarwyd Chwefror 2021
gan Meg Read and Rodney Coker
gyda deunydd ychwanegol gan David Bradwell a Gethin Rhys

Cyflwyniad

Bwriedir cynnal etholiadau yng Nghymru ddydd Iau 6 Mai 2021.

Bydd pob etholwr yn gallu pleidleisio dros aelod etholaeth ac aelod rhanbarthol o Senedd Cymru.

Bydd pleidleiswyr dros 18 oed hefyd yn gallu pleidleisio dros Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer eu hardal heddlu (mae rhai dinasyddion tramor sy’n byw yng Nghymru yn anghymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw).

Bydd rhai pleidleiswyr dros 18 oed hefyd yn gallu pleidleisio mewn is-etholiad lleol ar yr un diwrnod.

Gallwch weld pa etholiadau sy’n digwydd yn eich ardal yn:
https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/elections-and-referendums/etholiadau-ar-ddod

Yn y cyfnod yn arwain at etholiad, bydd eglwysi a chyrff cymunedol yn aml yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus gydag ymgeiswyr etholiadol (a elwir weithiau’n hustyngau). Maent yn gwneud hynny fel gwasanaeth cyhoeddus, i gefnogi’r broses ddemocrataidd, i hwyluso trafodaeth gyhoeddus ac fel cyfraniad at les pawb.

Yn y digwyddiadau hyn gall aelodau o’r cyhoedd wrando ar yr ymgeiswyr sy’n sefyll etholiad a gofyn cwestiynau iddynt. Gall cyfarfodydd a drefnir gan grwpiau eglwysig gynnig cyfle i drafod gan barchu pawb mewn gofod niwtral, sy’n aml yn rhywbeth mae ymgeiswyr yn ogystal â phleidleiswyr yn ei werthfawrogi.